Môr Aral
| Math | cynlyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ardal Môr Canoldir |
| Gwlad | Casachstan, Wsbecistan |
| Arwynebedd | 8,303 km² |
| Uwch y môr | 31 metr |
| Cyfesurynnau | 45°N 60°E |
| Dalgylch | 690,000 cilometr sgwâr |
| Hyd | 428 cilometr |
![]() | |
Môr neu lyn yng Nghanolbarth Asia yw Môr Aral (Casacheg: Арал теңізі, Aral tengizi, Rwseg: Аральскοе мοре, Tajik/Perseg: Daryocha-i Khorazm, Llyn Khwarazm). Mae ei ran ogleddol yng Nghasachstan a'r rhan ddeheuol yn Karakalpakstan, rhanbarth o Wsbecistan. Ystyr yr enw yw "Môr yr Ynysoedd"; ceir dros 1,500 o ynysoedd ynddo,
Ers y 1960au mae arwynebedd Môr Aral wedi bod yn lleihau, wedi i gwrs yr afonydd Amu Darya a Syr Darya sy'n llifo iddo gael eu newid gan yr Undeb Sofietaidd ar gyfer dyfrhau cnydau. Erbyn 2004, nid oedd ganddo ond 25% o'i arwynebedd gwreiddiol, ac roedd lefel yr halen yn ei ddyfroedd wedi cynyddu bron bum gwaith, gan ladd llawer o'r anifeiliaid a phlanhigion ynddo. Mae llygredd yn broblem fawr hefyd. Ar hyn o bryd mae ymdrechion yng Nghasachstan i achub rhan ogleddol y llyn.


