Brenhinllin Shang

Oddi ar Wicipedia
Yr ardaloedd lle cafwyd hyd i dystiolaeth archaeolegol o Frenhinllin Shang.

Brenhinllin Shang (Tsieineeg: 商, pinyin: Shāng, Wade-Giles: Shang), weithiau hefyd Brenhinllin Yin (殷), oedd yr ail frenhinllin yn hanes Tsieina, a'r gyntaf y mae tystiolaeth hanesyddol amdani. Mae'n dyddio o tua 1600 CC hyd 1046 CC., ac roedd ei thiriogaeth yn ymestyn ar hyd dyffryn yr Afon Felen, yn yr hyn sy'n awr yn rhan ogleddol talaith Henan. rhan ddeheuol Hebei, gorllewin Shandong, gogledd Anhui a gogledd-ddwyrain Jiangsu.

Nodweddir yr ardal yn y cyfnod yma gan ddinasoedd caerog yn perthyn i unedau a elwir yn zu, yn cynnwys tylwyth estynedig. Olynwyd y Shang gan Frenhinllin Zhou.


Mifu01.jpg
Cyfnodau hanes Tsieina
Hanes Tsieina Brenhinllin ShangBrenhinllin ZhouCyfnod y Gwladwriaethau RhyfelgarBrenhinllin QinBrenhinllin HanBrenhinllin y TangBrenhinllin YuanBrenhinllin MingBrenhinllin Qing