Oes aur

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Oes Aur)
Oes aur
Enghraifft o'r canlynolmyth, literary topos Edit this on Wikidata
Mathoes Edit this on Wikidata
Rhan oAges of Man Edit this on Wikidata
Olynwyd ganSilver age Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Yr Oes aur gan Pietro da Cortona

Yr Oes aur ym mytholeg Roeg oedd y cyfnod pan lywodraethid ar y duwiau gan y Titan Cronos, wedi iddo diorseddu ei dad, Ouranos. Daeth i ben pan ddiorseddwyd Cronos gan ei fab, Zeus, gan ddod a chyfnod y Titaniaid i ben.

Y brif ffynhonnell ar gyfer y syniad yw'r bardd Hesiod, tua'r 8fed ganrif CC. Dywed fod pedair oes wedi bod cyn yr oes bresennol. Yr oes aur oedd y gyntaf, a dilynwyd fi gan yr oes arian, yr oes efydd a'r oes haearn. Yn ystod yr oes aur, roedd heddwch, ac nid oes angen cyfraith gan fod pawb yn rhinweddol. Nid oedd henaint nag afiechyd, ac roedd y ddaear yn cynhyrchu digonedd o fwyd.

Ceir syniad tebyg mewn mytholeg Hindwaidd, a defnyddir "oes aur" am unrhyw gyfnod lle roedd lwyddiant arbennig, er enghraifft Oes Aur y Môr-Ladron.