Mur Mawr Tsieina

Oddi ar Wicipedia
Mur Mawr Tsieina
Mathatyniad twristaidd, fortified line Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
SirHebei, Beijing, Tianjin, Shanxi, Mongolia Fewnol, Shaanxi, Ningxia, Gansu, Xinjiang, Shandong, Henan, Hubei, Hunan, Sichuan, Qinghai Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.42°N 116.08°E Edit this on Wikidata
Hyd21,195 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcalchfaen Edit this on Wikidata

Hen amddiffynfa Tsieineaidd yw Mur Mawr Tsieina (長城, 长城, "Dinas Hir"). Ystyrir ei fod yn un o ryfeddodau'r byd. Os cynhwysir y muriau atodol sydd hefyd yn rhan ohono, mae'r Mur Mawr yn ymestyn am 50,000 km. Mae'n ymestyn o'r ffin bresennol rhwng Tsieina a Gogledd Corea i fynyddoedd Qian Shang yng ngorllewin Tsieina.

Dywedir yn gyffredinol bod y mur cyntaf wedi ei adeiladu yn y 3edd ganrif C.C. yn ystod teyrnasiad Qin Shi Huang (Ying Zheng), Ymerodwr Cyntaf Brenhinllin Qin, ond mewn gwirionedd codwyd rhan gyntaf y Mur Mawr mor gynnar â'r 7fed ganrif C.C.. Hyd at yr 17g O.C. roedd ymerodrau Tsieina yn dal i adnewyddu ac ehangu'r Mur.

Roedd yn fwy nac amddiffynfa yn unig. Bu iddo rôl pwysig yn y rhwydwaith cludiant dros dir Canolbarth Asia i'r Dwyrain Canol ac Ewrop a elwir Llwybr y Sidan ac mewn datblygiadau diwylliannol ac economaidd o boptu iddo yn ogystal.

Mae'r rhannau mwyaf enwog heddiw i'w gweld yn Shanhaiguan, Gubeikou, Juyongguan, Badaling, Ynamenguan, Ningwuguan, Jiayuguan a Lintao.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Luo Zhewen a Zhao Luo, The Great Wall of China in History and Legend (Beijing, 1986). ISBN 0835114546