Brenhinllin Ming
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Ming)
| Enghraifft o: | gwladwriaeth hanesyddol Tsieina, cyfnod o hanes |
|---|---|
| Daeth i ben | 1644 |
| Rhan o | Ming Qing, Late Imperial China |
| Dechrau/Sefydlu | 1368 |
| Rhagflaenwyd gan | Brenhinllin Yuan, Chinese Middle Ages |
![]() | |
| Rhagflaenydd | Brenhinllin Yuan, Song, Ymerodraeth y Mongol |
| Olynydd | Shun dynasty, Brenhinllin Qing, Southern Ming dynasty |
| Enw brodorol | 大明 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0bw_m |
Brenhinllin Ming oedd y frenhinllin fu'n rheoli Tsieina o 1368 hyd 1644, yn dilyn cwymp Brenhinllin Yuan, oedd o dras Mongolaidd. Roedd Brenhinllin Ming yn frenhinllin Tsieineaidd ethnig neu Han, y frenhinllin Han olaf yn hanes Tsieina. Dinistriwyd y frenhinllin gan wrthryfel dan arweiniad Li Zicheng, a chymerwyd ei lle gan Brenhinllin Qing, o dras Manchu. Cipiwyd prifddinas y Ming, Beijing, yn 1644, ond parhaodd rhan o'r Ming mewn grym yn ne Tsieina hyd 1662.
Daeth Tsieina yn rym mawr yn y cyfnod Ming, gyda byddin sefydlog o 1,000,000 o filwyr. Gwelodd y cyfnod hefyd fordeithiau gan lynges dan arweiniad Zheng He yn y 15g i sawl rhan o'r byd.

| Cyfnodau hanes Tsieina | |
|---|---|
| Hanes Tsieina | Brenhinllin Shang • Brenhinllin Zhou • Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar • Brenhinllin Qin • Brenhinllin Han • Brenhinllin Tang • Brenhinllin Yuan • Brenhinllin Ming • Brenhinllin Qing |

