Afon Mississippi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Itasca ar Afon Mississippi
Map o Afon Mississippi - cleciwch i weld manylion

Yr afon ail hiraf yn Unol Daleithiau America yw'r Mississippi, yng nghanolbarth y wlad.

Mae'r afon yn tarddu yng ngogledd Minnesota ac yn llifo i'r de i aberu yng Ngwlff Mecsico. Gyda Afon Missouri, sy'n ymuno â hi fymryn i'r gogledd o ddinas St. Louis, mae'n ffurfio'r system afon trydydd hiraf yn y byd (6050 km / 3759 milltir) ac mae ganddi'r basin draenio trydydd mwyaf yn y byd yn ogystal (3,222,000 km² / 1,243,753m²). Oherwydd y perygl o orlifiadau, fel y profwyd yn Orleans Newydd yn ddiweddar, mae ganddi system cymhleth o gloddiau dŵr (levees) am hanner olaf ei chwrs.

Ei chwrs[golygu]

Lleolir tarddle Afon Mississippi yn y corsdiroedd eang ger Duluth (ar lan Llyn Superior) yng ngogledd Minnesota. Yn y dalaith honno mae hi'n llifo heibio i ddinasoedd Minneapolis a St. Paul. Rhwng de Minnesota a St. Louis mae'r afon yn nodi'r ffin rhwng taleithiau Iowa a Missouri i'r gorllewin a Wisconsin ac Illinois i'r dwyrain. Ger Davenport yn Iowa mae camlas yn cysylltu'r afon â Llyn Michigan, i'r gogledd o Chicago. Yn ymyl St. Louis mae afon fawr Missouri yn ymuno o'r gorllewin. Yn nes ymlaen i'r de, ger tref Cairo, daw Afon Ohio i ymuno â'r afon fawr; mae ffiniau tair talaith - Missouri, Illinois a Kentucky - yn cwrdd yno.

Mae Afon Mississippi yn llifo yn ei blaen trwy'r gwastadiroedd eang i dref Memphis ac yn nodi'r ffin rhwng Arkansas a Tennessee. Yr afon fawr nesaf i ymuno â hi yw Afon Arkansas ac mae'n llifo heibio i iseldiroedd talaith Mississippi ei hun ar ei lan ddwyreiniol. Yna mae'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng Louisiana a Mississippi ond am ran olaf ei thaith hir rhed drwy Louisiana yn unig, gan fynd heibio i Baton Rouge a thorri i fyny yn gyfres o sianelu cymhleth a elwir the Passes wrth fynd heibio i Orleans Newydd a chyrraedd Gwlff Mecsico ar isthmws o dir aliwfial sy'n ymestyn allan i'r gwlff hwnnw.

Economeg[golygu]

Yn enwog am ei llongau stêm, mae'n un o afonydd masnachol prysuraf y byd, gyda phorthleoedd pwysig yn St. Louis ac Orleans Newydd.

Gweler hefyd[golygu]