Richard Brunstrom

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Brunstrom
Ganwyd Medi 1954 Edit this on Wikidata
Nottingham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth heddwas, söolegydd, blogiwr Edit this on Wikidata
Swydd Prif Gwnstabl Edit this on Wikidata
Cartŵn o'r Western Mail, 1898, sydd yr un mor berthnasol i'n sefyllfa heddiw. Bu Brunstrom yn dadlau'n gryf iawn mai awdurdod pobol Cymru ddylai'r heddlu fod, ac nid awdurdod Seisnig y gormeswr.

Uwch swyddog heddlu wedi ymddeol yw Richard Brunstrom (ganwyd Medi 1954). Roedd yn bennaeth Heddlu Gogledd Cymru rhwng Ionawr 2001 a Gorffennaf 2009. Ers iddo ymgymeryd â'i swydd fel Prif Gwnstabl daeth yn ffigwr cyhoeddus amlwg gyda barn ddi-flewyn ar dafod. Cafodd ei sylwadau am statws yr iaith Gymraeg ymateb brwd gan rai, gan gynnwys ymgyrchwyr iaith, ond beirniadaeth gan eraill, e.e. Mark Tami, AS Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy. Ysgrifennodd y bardd adnabyddus Gwyn Thomas, Bardd Cenedlaethol Cymru (2006-07), gerdd yn moli agwedd y prif gwnstabl tuag at Gymru a'r iaith; fe'i cyhoeddwyd yn Y Glas, papur yr heddlu.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl graddio mewn sŵoleg dechreuodd ar yrfa yn yr heddlu pan ymunodd â Heddlu Sussex fel cwnstabl yn 1979. Treuliodd 11 mlynedd yno. Yn 1990 symudodd i Heddlu Manceinion Fwyaf a chafodd swydd fel Uwch Arolygydd ac wedyn fel Rheolwr Ardal. Yn 1995 aeth i Heddlu Cleveland a chafodd swydd fel Dirprwy Prif Gwnstabl yno.

Heddlu Gogledd Cymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Symudodd i Heddlu Gogledd Cymru yn 2000. Yn Ionawr 2001 cafodd ei wneud yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru. Bu Brunstrom yn ffigwr dadleuol byth ers hynny. Fe'i feirniadwyd gan nifer o yrrwyr am ei ymgyrchoedd yn erbyn gyrrwyr cyflym, gan gynnwys gynnyddu'n sylweddol y nifer o gamerau traffig, ond dangosodd ystadegau y cyfnod dangos fod gan ardal Gogledd Cymru un o'r cofnodion gorau am ddiogelwch ar y ffordd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.[angen ffynhonnell] Cymerodd gamau dadleuol ym maes rheoli cyffuriau anghyfreithlon hefyd, e.e. trwy osod mannau cyfnewid syringes y tu allan i orsafoedd heddlu fel arbrawf.

Ond efallai ei fod wedi gwneud ei gyfraniad mwyaf ym maes y defnydd o Gymraeg yn Heddlu Gogledd Cymru. Cafodd ei eni'n Sais a doedd ganddo ddim gair o Gymraeg pan ymgymerodd â'i swydd newydd yn 2001. Ond addawodd y byddai'n dysgu'r iaith pan gafodd ei ddyrchafu'n Brif Gwnstabl yn 2001 ac ers hynny mae wedi ennill 'Lefel A', gradd A, yn y Gymraeg ac yn ddigon hyderus i'w defnyddio'n gyhoeddus fel rhan o'i swydd. Lawnsiodd gylchgrawn dwyieithog Y Glas sy'n cael ei dosbarthu'n rhad ac am ddim i gartrefi yn y gogledd a cododd proffeil ymarferol yr iaith yn yr heddlu.

Ym Medi 2007 cytunodd i gael ei saethu gan wn taser gydag ergyd drydanol o 50 000 V ynghylch cynllun gan Heddlu'r Gogledd i'w defnyddio nhw mewn ardaloedd gwledig.[1] Cafodd fideo o hyn ei roi ar wefan yr heddlu.[2]

Ar yr 2il o Fai 2009 cyhoeddodd y bydd yn ymddeol o'r swydd ym mis Gorffennaf 2009.[3]

Cynhadledd Cymuned 2007[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 14 Ebrill 2007, mewn ymateb i wahoddiad gan y mudiad, anerchodd cynhadledd flynyddol Cymuned ym Mhenrhyndeudraeth. Gan siarad yn hyderus yn Gymraeg, galwodd ar bawb sy'n byw yng Nghymru neu sy'n bwriadu symud i'r wlad ddysgu Cymraeg. Galwodd hefyd am uwchraddio'r Ddeddf Iaith bresennol a normaleiddio'r defnydd o Gymraeg yn y gymdeithas. Dywedodd ei fod yn credu fod ganddo ddyletswydd cyfreithiol yn rhinwedd ei swydd i hyrwyddo'r Gymraeg. Cyfeiriodd yn ogystal at agwedd rhai Saeson tuag at Gymru fel "agweddau imperialaidd" fel petasai "Cymru ar ryw orwel bellenig". Ychwanegodd: "Wales is a country of its own and doesn't correspond to a region of England. The huge majority of English people including politicians can't accept this." Cafodd ei araith ei gymeradwyo'n frwd gan y cynhadleddwyr.[4]

Ffraeon eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 26 Ebrill 2007 cynhaliwyd cynhadledd i'r wasg am ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd. Dangoswyd sleidiau digon cignoeth o anafiadau, ac yn arbennig llun o feiciwr heb ben ar ôl cael damwain. Cyhoeddodd un o'r gohebion fu'n bresennol y stori, yn groes i'w addewid, a thorrodd ffrae newydd allan. Galwodd teulu'r beiciwr, a fu farw ar ôl damwain yn y Gogledd, ar Brunstrom i ymddiswyddo am na rhoddwyd caniatad i ddangos y lluniau ac ystyriwyd achos llys yn ei erbyn. Cafwyd ymddiheuriad gan Heddlu Gogledd Cymru.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]