Heddlu Gogledd Cymru
Gwedd
| Enghraifft o: | heddlu tiriogaethol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1967 |
| Rhagflaenwyd gan | Heddlu Sir Caernarfon, Anglesey Constabulary, Merionethshire Constabulary, Heddlu Sir y Fflint, Denbighshire Constabulary |
| Gweithwyr | 1,600 |
| Pencadlys | Bae Colwyn |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://www.north-wales.police.uk/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/09hfc3 |
Un o bedwar heddlu Cymru yw Heddlu Gogledd Cymru (Saesneg: North Wales Police). Mae'n gwasanaethu awdurdodau unedol Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ynys Môn. Lleolir ei bencadlys ar gyrion Parc Eirias, Bae Colwyn.

Fe'i sefydlwyd yn 1967 pan ymforfforwyd heddluoedd Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn Gwynedd Constabulary (a ffurfiwyd ym 1950 pan unwyd heddluoedd Sir Gaernarfon, Sir Fôn a Sir Feirionydd). Ailenwyd Gwynedd Constabulary yn "Heddlu Gogledd Cymru" ar ôl i lywodraeth leol gael ei diwygio yn Ebrill 1974, a rhoddwyd yr enw "Gwynedd" i un o'r siroedd newydd.