William Williams (Will Penmorfa)
William Williams | |
---|---|
Will Penmorfa. Portread gan J. Chapman, 1826. Amgueddfa Genedlaethol Cymru | |
Ganwyd | 1759 |
Bu farw | 1828 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | telynor |
Telynor dall i deulu'r Wynniaid, Llandeilo, oedd William Williams (1759 - 30 Tachwedd 1828), neu Will Penmorfa ar lafar gwlad. Roedd yn un o'r telynorion enwocaf yng Nghymru ar ddiwedd y 18g a dechrau'r ganrif ganlynol.
Yn ôl pob tebyg cafodd ei eni a'i fagu ym mhlwyf Penmorfa ger Tremadog, Gwynedd. Roedd yn ddisgybl i'r enwog John Parry, sef 'Parry Ddall' Rhiwabon. Bu'n athro telyn yn ei dro i Richard Roberts, Caernarfon.[1]
Bu yn Eisteddfod Caerfyrddin 1823 lle cafodd ei gyflwyno i'r hanesydd Carnhuanawc a chwareuodd y delyn iddo. Ond erbyn hynny roedd yn ŵr hen a'i nerth yn pallu. Arferai wisgo cadach du dros ei lygaid ac roedd ganddo wallt hir hyd hanner ei gefn.[2]
Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn delynor teuluaidd ym mhlas Tregib, ger Llandeilo Fawr. Yno y bu farw ar 30 Tachwedd 1828, yn 69 mlwydd oed.[2]
Mae'r portread olew o Will Penmorfa a wnaed gan artist o'r enw J. Chapman (ceir ansicrwydd ynglŷn â pha 'J. Chapman' oedd hwn) yn 1826 yn un o baentiadau Cymreig eiconaidd y 18g.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (d.d. = 1913), tud. 329.
- ↑ 2.0 2.1 Llyfr Cerdd Dannau, tud. 330.