Alexander Graham Bell
Alexander Graham Bell | |
---|---|
![]() | |
Llais | Alexander Graham Bell's Voice.ogg ![]() |
Ganwyd | 3 Mawrth 1847 ![]() Caeredin ![]() |
Bu farw | 2 Awst 1922 ![]() o diabetes ![]() Beinn Bhreagh ![]() |
Man preswyl | Brodhead-Bell-Morton Mansion ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Addysg | Doctor of Sciences ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffisegydd, peiriannydd trydanol, peiriannydd, person busnes, dyfeisiwr, athro cadeiriol ![]() |
Swydd | athro cadeiriol, aelod o fwrdd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | invention of telephone ![]() |
Taldra | 183 centimetr ![]() |
Pwysau | 111 cilogram ![]() |
Tad | Alexander Melville Bell ![]() |
Mam | Eliza Bell ![]() |
Priod | Mabel Gardiner Hubbard ![]() |
Plant | Elsie May Grosvenor, Marian Fairchild ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Edison, Gwobr Elliott Cresson, Medal John Fritz, Medal Hughes, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Oriel yr Anfarwolion Genedlaethol Dyfeiswyr, Medal Albert, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Member of the National Academy of Sciences of the United States, Medal John Fritz, Pobl o Bwys Hanesyddol Cenedlaethol ![]() |
llofnod | |
![]() |
Gwyddonydd, dyfeisiwr ac arloeswr blaengar Albanaidd oedd Alexander Graham Bell (3 Mawrth 1847 – 2 Awst 1922), sy'n cael ei gydnabod am ddyfeisio'r teleffôn. Roedd ei dad, ei dadcu a'i frawd i gyd wedi gwneud gwaith a oedd yn gysylltiedig â llefaru ac ynganu geiriau. Roedd ei fam a'i wraig yn gwbl fyddar, rhywbeth a ddylanwadodd yn fawr ar waith Bell.[1] Yn sgîl ei waith ymchwil ar glyw a llefaru, gwnaeth arbrofion gyda dyfeisiadau clyw ac yn ei dro, arweiniodd hyn ar Bell yn derbyn y patent cyntaf yn yr Unol Daleithiau am y teleffôn cyntaf ym 1876.[2] Serch hynny, ystyriai Bell fod ei ddyfais enwocaf yn amharu ar ei waith go iawn fel gwyddonydd a gwrthododd gael teleffôn yn ei swyddfa.[3] Pan fu farw Bell, roedd ffônau ledled yr Unol Daleithiau wedi tawelu am funud fel teyrnged i'r gwr a'u crëodd.[4]
Yn ystod bywyd Bell, dyfeisiodd eitemau eraill hefyd gan gynnwys ei waith arloesol ar hydroffoils ac aeronauteg. Ym 1888, daeth Bell yn un o sefydlwyr y Gymdeithas National Georgraphic.[5]
Ei Fywyd Cynnar[golygu | golygu cod]
Ganwyd Alexander Bell yng Nghaeredin, Yr Alban ar y 3ydd o Fawrth, 1847.[3] Roedd ef a'i deulu'n byw yn 16 Stryd South Charlotte, Caeredin, Yr Alban a bellach ceir yno gofnod ar riniog y drws mai yn y fan honno y ganed Bell. Roedd ganddo ddau frawd: Melville James Bell (1845–1870) a Edward Charles Bell (1848–1867). Bu farw ei ddau frawd o'r diciau, Edward ym 1867 a Melville ym 1870.[6] Enw ei dad oedd yr Athro Alexander Melville Bell, a'i fam oedd Eliza Grace (née Symonds).[6] Er iddo gael ei eni fel "Alexander", pan oedd yn ddeg oed, plediodd ar ei dad i roi enw canol iddo fel oedd gan ei frodyr. Ar ei 11eg benblwydd, cytunodd ei dad a chafodd yr enw canol "Graham", enw a ddewiswyd o'i edmygedd at Alexander Graham, gwr o Giwba a gafodd ei drin gan ei dad ac a ddaeth yn ffrind i'r teulu.[7]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Gwefan About.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-03. Cyrchwyd 2008-10-18.
- ↑ Dogfen Patent Bell[dolen marw]
- ↑ 3.0 3.1 Answers.com
- ↑ Erthygl More About Bell
- ↑ Erthygl y BBC
- ↑ 6.0 6.1 Notable Biographies
- ↑ Kids Newsroom[dolen marw]