Sefydliad Smithsonian

Oddi ar Wicipedia
Sefydliad Smithsonian
Mathsefydliad, sefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlJames Smithson Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 10 Awst 1846 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner UDA UDA
Cod post20013 Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganJames Smithson, Joel Roberts Poinsett Edit this on Wikidata

Mae'r Sefydliad Smithsonian (Saesneg: Smithsonian Institute neu'r "Smithsonian") yn sefydliad addysgol ac ymchwil a'r rhywdwaith amgueddfeydd cysylltiedig. Mae'n cael ei weinyddu a'i ariannu gan llywodraeth yr Unol Daleithiau a gan yr arian a godir o asedau, cyraniadau elusennol, a'r elw o'i siopau a'i gylchgrawn. Lleolir y rhan fwyaf o'i adeiladau yn Washington, D.C., ond mae ei 19 amgueddfa, ei sŵ, a'i wyth ganolfan ymchwil ar gael yn Ninas Efrog Newydd, Virginia, Panama, a mannau eraill. Mae ganddo dros 142 miliwn o eitemau yn ei gasgliadau.

Mae'r Sefydliad Smithsonian yn cyhoeddi cylchgrawn misol o'r enw Smithsonian.

Rhan bwysig o waith y Smithsonian yw ariannu ymchwil mewn meysydd fel archaeoleg ac anthropoleg ledled y byd.

Adeilad y Sefydliad Smithsonian neu'r "Castell" ar y National Mall, pencadlys y sefydliad
Adeilad y Sefydliad Smithsonian neu'r "Castell" ar y National Mall, pencadlys y sefydliad