Mandan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dau aelod o'r llwyth Mandan
Aelod o lwyth y Mandan mewn gwisg o groen byffalo yn edrych dros Afon Missouri. Llun gan Edward S. Curtis, circa 1908. Llun o Lyfrgell y Gyngres,

Llwyth o frodorion Gogledd America yw'r Mandan. Yn hanesyddol roeddynt yn byw ar hyd glannau Afon Missouri a dwy afon sy'n llifo i mewn iddi, afonydd Heart a Knife River; heddiw yn nhaleithiau Gogledd Dakota a De Dakota.

Yn wahanol i lwythau eraill yr ardaloedd hyn, roedd y Mandan yn byw mewn pentrefi parhaol, yn hytrach na symud i ddilyn y byffalo. Heblaw hela, roeddynt hefyd yn amaethu.

Daethant i gysylltiad ag Ewropeaid yn 1738, ac ymwelwyd a hwy gan nifer o fasnachwyr dros y ganrif nesaf. Erbyn dechrau'r 19g roedd heintiau ac ymosodiadau gan lwythau eraill wedi gostwng eu nifer yn sylweddol. Wedi haint o'r Frech Wen yn 1837, roedd eu nifer cyn ised a 125. Oherwydd hyn, ymunasant a llwythau cyfagos yr Arikara a'r Hidatsa.

Dros y degawdau nesaf, lleihaodd tiroedd y llwythau dan bwysau o'r llywodraeth. Sefydlwyd tiriogaeth iddynt yn Fort Berthold, yn wreiddiol o tua 8 miliwn acer (32,000 km²), ond erbyn 1910, roedd ei faint wedi gostwng i tua 900,000 acer (3,600 km²). Yn 1934 unwyd y Mandan yn swyddogol a'r Hidatsa a'r Arikara. Bu farw'r Mandan gwaed-llawn olaf yn 1971; mae'r Mandan presennol o hil gymysg.

Cysylltwyd y Mandan a'r chwedl am ddarganfyddiad America gan Madog ab Owain Gwynedd tua 1170. Dechreuodd straeon gylchredeg am lwyth y Mandan, yn haeru eu bod yn siarad Cymraeg ac yn ddisgynyddion y Cymry a deithiodd i America gyda Madog. Teithiodd John Evans o'r Waunfawr yng Ngwynedd i fyny Afon Missouri i chwilio am y Mandan ddiwedd y 18fed ganrif. Cafodd hyd iddynt, ond ni chanfu unrhyw arwydd o eiriau Cymraeg yn eu hiaith.