Cornchwiglen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cornchwiglen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Charadridae
Genws: Vanellus
Rhywogaeth: V. vanellus
Enw deuenwol
Vanellus vanellus
(Linnaeus, 1758)
Vanellus vanellus

Mae'r Gornchwiglen (Vanellus vanellus) yn aelod o deulu'r rhydyddion. Mae'n aderyn cyffredin trwy Ewrop a gogledd Asia.

Mae'r Gornchwiglen yn aderyn mudol yn y rhannau lle ceir gaeafau oer ac yn symud i'r de cyn belled a gogledd Affrica a gogledd India. Yng ngorllewin Ewrop nid yw'n mudo.

Gellir adnabod y Gornchwiglen yn hawdd. Mae'n aderyn du a gwyn, ond gyda lliw gwyrdd ar y cefn, ac mae plu hir ar y pen. Mae rhwng 28 a 31 cm o hyd a 67–72 cm ar draws yr adenydd. Yn y tymor nythu gellir clywed yr adar yn galw yn ddi-baid.

Mae'n nythu ar gaeau a lle bynnag y ceir tir agored gyda glaswellt heb fod yn rhy hir. gan ddodwy 3 neu 4 wy ar y llawr. Mae'r rhieni yn amddiffyn y nyth ac yn ddiweddarach y cywion rhag unrhyw aderyn neu anifail a allai fod yn berygl iddynt. Mewn llawer o wledydd, yn cynnwys Cymru, mae'r nifer o Gornchwiglod sy'n nythu wedi gostwng oherwydd fod dulliau ffermio dwys yn golygu fod llai o leoedd addas iddynt nythu. Yn y gaeaf mae niferoedd sylweddol o adar o wledydd eraill yn symud i mewn, ac weithiau gellir gweld heidiau o filoedd ar rannau mwdlyd o lan y môr neu ar gaeau. Eu prif fwyd yw pryfed o wahanol fathau.

Perthynas â phobl[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Hel wyau griglod

Cofnod Olwen Evans (Môn) yn 2011:

Fy modryb (91 oed) yn dweud fel y byddai yn mynd i aros at ei Nhain i Benrallt, Paradwys a cherdded i Falltraeth i hel cocos. Finnau yn cofio mynd i aros ati hi i Aberffraw pan yn blentyn yn y 50au a chael wedi ei ffrio. Roedd yn arfer gan rai o'r Berffro fynd i hel wyau cornchwiglod i'w bwyta. Ychwanegodd fod “yr hogia yn mynd hyd y twyni hefo tunia a gneud tan a berwi'r wyau a'u bwyta. A hefyd - mynd a nhw i'w gwerthu i bobl fawr Rhosneigr”. Mam wedyn yn cofio mynd i aros hefo’i chwaer i Penyrorsedd yn agos i'r Berffro a Hughie (ei brawd yng nghyfraith) yn mynd i'r caeau i hel wyau cornchwiglod a Lisi yn eu ffrio. Mam yn dotio nad oedd y gwynwy yn troi yn wyn ond yn aros yn glir. Hynny yn gof plentyn gen i hefyd a methu dallt pam nad oedd y gwynwy yn wyn. Mam yn eu galw yn griglan neu griglod.[1]
Dyma farn milfeddygol Jaqueline Wilmington: "Mae “ovalbumin” yn achosi i wynnwy wyau ieir domestig droi’n wyn yn ystod eu coginio. Mae wyau rhai rhywogaethau’n cynnwys llai o “ovalbumin” a mwy o wahanol fathau eraill o albwmin ac felly nid ydynt yn ymateb i goginio yn yr un modd. Mae wyau pengwiniaid yn ymddwyn yn debyg[1].

Llên Gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl chwedl, roedd y gornchwiglen yn arfer nythu yn y coed fel adar eraill... a'r dylluan (twyll-Lleu, o chwedl Blodeuwedd) yn nythu ar y llawr. Un diwrnod perswadiwyd y gornchwiglen gan y dylluan i gyfnewid eu llefydd nythu, ac felly y bu. Ond yn fuan iawn fe welodd y gornchwiglen ei bod wedi gwneud camgymeriad mawr... ac ers hynny mae hi yn gweiddi ar y dylluan i newid nôl - 'NEWID, NEWID' yw ei chri.[2]

Cyfeiriad[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Olwen Evans ym Mwletin Llên Natur rhyfyn 44[2]
  2. Sion Roberts ym Mwletin Llên Natur rhif 26[3]