William Owen (Prysgol)

Oddi ar Wicipedia
William Owen
FfugenwPrysgol Edit this on Wikidata
Ganwyd12 Rhagfyr 1813 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw20 Gorffennaf 1893 Edit this on Wikidata
Caeathro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Roedd William Owen (Prysgol) (12 Rhagfyr, 181320 Gorffennaf, 1893) yn gerddor yn arweinydd côr ac yn awdur emyn donnau Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Prysgol yn Lôn Popty, Bangor yn blentyn i William Owen, chwarelwr ac Elen Williams ei wraig. Symudodd ei rieni yn fuan wedi hynny i'r Tŷ Hen ger chwarel Cae Braich y Cefn, Bethesda, lle y gweithiai ei dad. Wedi byw yno rai blynyddoedd cafodd y teulu ei droi allan o'r tŷ, er mwyn ei osod i un o stiwardiaid y chwarel. Wedi hynny symudodd y teulu i dyddyn bychan yn ardal Bangor o'r enw Cilmelyn.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Pan oedd yn ddeng mlwydd oed dechreuodd Prysgol gweithio gyda'i dad yn chwarel Cae Braich y Cefn. Gan fod y chwarel yn rhy bell o Fangor i deithio yno pob dydd dechreuodd lletyo ym Mraich y Cefn yn ystod yr wythnos wedi i'r teulu symud i Gilmelyn. Dechreuodd derbyn gwersi cerddorol gan Robert Williams (Cae Aseth) a William Roberts Tŷ'n y Maes, Bethesda. Bu'n cynnal cyfarfodydd canu yng Nghapel y Graig Bangor pan byddai adref bwrw'r Sul a bu'n arwain côr meibion bychan ymysg ei gyd chwarelwyr yn ystod yr wythnos gwaith.

Roedd Prysgol yn aelod brwdfrydig o'r achos dirwest (pobl oedd yn gwrthwynebu yfed diodydd alcoholig) a dechreuodd cyfansoddi tonau ar gyfer emynau dirwestol pan oedd yn 18 oed. Yn ddiweddarach yn ei fywyd bu'n arwain corau dirwestol mawr ac yn arwain cymanfaoedd dirwest. Ymddangosodd ei emyn dôn cyntaf i'w cyhoeddi, o'r enw Langport, yng nghylchgrawn Y Drysorfa ym mis Mai 1841.[3]. Ym 1852 cyhoeddodd casgliad o'i gyfansoddiadau Y Perl Cerddorol yn cynnwys tonau ac anthemau, cysegredig a moesol ail gyhoeddwyd y llyfr ym 1886 gyda nodiant sol-ffa.

Tonau mwyaf adnabyddus Prysgol yw Prysgol sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer emyn Ann Griffiths O am bara i uchel yfed (Caneuon Ffydd tôn 590; emyn 723) a Bryn Calfaria sy'n cael ei ddefnyddio fel y dôn arferol ar gyfer yr emyn Pantycelyn Gwaed dy Groes sy'n codi i fyny (Caneuon Ffydd tôn 416; emyn 494).[4]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1844 priododd Margaret Lloyd merch Humphrey Lloyd, fferm y Prysgol, Caeathro, Caernarfon [5] cawsant wyth o blant. Parhaodd i weithio yn y chwarel am ddwy flynedd cyn derbyn y cyfrifoldeb o ffermio tir y Prysgol gan ei dad yng nghyfraith.[6]

Wedi priodi daeth Prysgol yn flaenor ac yn godwr canu yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghaeathro.[7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref yn 79 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent anghydffurfiol Caeathro. I nodi canmlwyddiant ei eni dechreuwyd casgliad cenedlaethol cyhoeddus i roi cofadail ar ei fedd. Dadorchuddiwyd y cofadail ym mis Mai 1914.[8]

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "OWEN, WILLIAM ('William Owen, Prysgol'; 1813 - 1893), cerddor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-10-29.
  2. "WILLIAM OWEN PRYSGOL WEDI MARW - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1893-07-25. Cyrchwyd 2019-10-29.
  3. Y Drysorfa Rhif CXXV - Mai 1841; Langport gan Wm Owen, Cilmelyn, Bangor adalwyd 29 Hydref 2019
  4. Caneuon ffydd. Caernarfon: Pwyllgor y Llyfr Emynau Cydenwadol. 2001. ISBN 1903754011. OCLC 57019600.
  5. Coflein Cadw Cymru – Prysgol
  6. "CYFANSODDWR PEN CALFARIA - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-08-05. Cyrchwyd 2019-10-29.
  7. "Marwolaeth Mr William Owen Prysgol - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1893-07-27. Cyrchwyd 2019-10-29.
  8. Dad Orchuddio Cof Golofn y Diweddar Mr. Wm Owen, Prysgol adalwyd 29 Hydref 2019