Big Leaves

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Big Leaves
Gwybodaeth gefndirol
Tarddiad Baner Cymru Waunfawr
Enw arall Beganifs
Blynyddoedd 1986-2005
Label(i) recordio Ankst, Crai, Dell'Orso, Whipcord
Cysylltiedig Sibrydion
Aelodau
Rhodri Siôn - llais
Meilir Gwynedd - gitâr, llais
Kevin Tame - bas, llais
Osian Gwynedd - allweddellau, llais
Matt Hobbs - drymiau

Band poblogaidd o Waunfawr, Caernarfon oedd Big Leaves (Beganifs yn wreiddiol). Ffurfiwyd y band yn wreiddiol pan oedd yr aelodau yn eu arddegau ac yn ddisgyblion yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.[1] Mabwysiadwyd yr enw "Beganifs" ar ol y glas-enw lleol ar bobol y Waunfawr.[2]

Yn y 1990au gwahoddwyd y band i berfformio mewn gŵyl yn Amsterdam a saethwyd fideo yno. Camglywodd rastaffarian lleol enw'r band fel 'Big Leaves' - ac fe sticiodd yr enw. Daeth EP cyntaf y band gyda'r enw newydd yn 1998.[3]

Fe wnaeth y band roi'r ffidl yn y to ym 2005. Alien & Familiar oedd albwm olaf y band ac yn gampwaith ymysg nifer o senglau ag albymau penigamp a gyhoeddwyd gan y band. Yn y blynyddoedd cynnar roedd potensial y band dwyieithog yn amlwg, a honnwyd i Liam Gallagher o'r band byd-enwog Oasis ddewis '‘Fine'’ fel sengl y flwyddyn yn 2000.

Cyn hynny, roedden nhw wedi rhyddhau'r cyntaf o ddau albwm: Pwy Sy’n Galw?. Albwm uniaith Gymraeg ydoedd, a gynhwysai eu cân enwocaf, ‘'Seithenyn'’. Dywedodd Rhodri Siôn mewn cyfweliad - "Our song 'Seithenyn' has a middle eight that's like a Welsh Bohemian Rhapsody. It's a song about this Welsh legend. There's barber shop singing in the middle!"[3] Rhyddhaodd y band nifer o EPs o safon a thyfodd eu statws fel band ‘byw’ ardderchog.

Gydag ychydig mwy o gyhoeddusrwydd, nid oes amheuaeth y gallai Big Leaves fod wedi ehangu eu henw da a dyfod yn un o’r bandiau mwyaf poblogaidd i’w geni yng Nghymru, gan ddilyn olion traed y Super Furry Animals a’r Manic Street Preachers.[angen ffynhonnell]

Aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

fel Beganifs
  • Ffraeth (Albwm caset, Recordiau Ankst, ANKST 026, 1992)
  • Aur (Albwm caset, Recordiau Ankst, ANKST 035, 1992)
  • Beganifs (EP caset, Recordiau Ankst, ANKST 049, 1994)
fel Big Leaves
  • Trwmgwsg (EP, Crai CD062, 1998)
  • Belinda (EP, Crai CD066, 1999)
  • "Sly Alibi / Double Trouble " (Sengl, W-CRACK002, 1999)
  • "Racing Birds" (Sengl, W-CRACK003, 1999)
  • Pwy Sy'n Galw (Albwm, Crai CD 069, 2000)
  • Animal Instinct (EP, EDDA02, 2001)
  • Speakeasy (EP, EDDA04, 2001)
  • Siglo (EP, CRAI CD082, 2002)
  • Alien & Familiar (Albwm, EDDA 05CD, 2004)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  CYFWELIAD / INTERVIEW: Osian Gwynedd - Sibrydion. Blog Bachu Sylw (1 Mehefin 2011). Adalwyd ar 6 Mawrth 2017.
  2.  BIG LEAVES - Bywgraffiad. Sain. Adalwyd ar 6 Mawrth 2017.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) Big Leaves biography. BBC (30 Ionawr 2009). Adalwyd ar 6 Mawrth 2017.