Antur Waunfawr
Gwedd
| Math | sefydliad elusennol |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gwynedd |
| Gwlad | |
| Sefydlwydwyd gan | Robert Gwynn Davies |
Sefydlwyd Antur Waunfawr ym 1984 gan Robert Gwynn Davies a thrigolion ardal Waunfawr, Gwynedd. Ystyriwyd yr elusen yn arloesol yn ystod y 1980au am ei bod yn cynnig cyfleoedd i bobl gydag anableddau dysgu yn y gymuned, yn hytrach na darparu gofal a gwaith iddynt mewn canolfannau arbenigol. Nod yr elusen oedd y byddai'r bobl a fyddai'n derbyn eu cymorth yn datblygu i fod yn ddinasyddion cyfartal.

Bellach mae'r elusen yn cyflogi dros 70 o bobl.