Ffermdy Kennixton

Oddi ar Wicipedia
Ffermdy Kennixton
Mathffermdy Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAmgueddfa Werin Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadSain Ffagan Edit this on Wikidata
SirCaerdydd, Sain Ffagan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr27 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.49°N 3.27°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Ffermdy yn dyddio'n ôl i'r 17g yw Ffermdy Kennixton, a adeiladwyd yn wreiddiol yn Kennexstone, Llangynydd, Gŵyr. Fe'i ailgodwyd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, ym 1952.[1]

Adeiladwyd y tŷ tua 1610, a'i ymestyn dros gyfnod. Ychwanegwyd y gegin tua 1680. Y tu mewn gellir gweld enghraifft o wely bwlch neu "wely cwpwrdd" a llwyfan cysgu dros y lle tân.[2][3] Mae ei waliau allanol wedi'u paentio'n goch llachar; roedd y pigment gwreiddiol yn cynnwys gwaed ych a chalch.[4]

Rhoddwyd y ffermdy i'r amgueddfa ym 1951 gan ei pherchennog ar y pryd, Mr J. B. Rogers.[5]

Golygfa o'r ffermdy
Golygfa o'r ffermdy 
Y tu mewn i'r ffermdy
Y tu mewn i'r ffermdy 

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]