Llangynydd

Oddi ar Wicipedia
Llangynydd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.601°N 4.273°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS4291 Edit this on Wikidata
Cod postSA3 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMike Hedges (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)
Map

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llangynydd, Llanmadog a Cheriton, Sir Abertawe, Cymru, yw Llangynydd[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (amrywiad: Llangenydd; Seisnigiad: Llangennith).[2] Fe'i lleolir ar benrhyn Gŵyr ger Bae Rhosili, tua 13 milltir i'r gorllewin o ddinas Abertawe.

Eglwys Llangynydd

Ceir nifer fechan o dai ar wasgar ac un tafarn, sef y Kings Head. Gorwedd y pentref ar groesffordd wledig; mae Moor Lane yn arwain i barc carafanau ger Bae Rhosili i'r gorllewin ac mae Burrows Lane yn arwain i Fae Broughton, i'r gorllewin. I'r dwyrain mae ffordd arall yn cysylltu'r pentref â Llanrhidian.

Mae eglwys Llangynydd yn hynafol. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan Sant Cynydd (neu Cenydd). Ceir Maen Cynydd yn yr eglwys; carreg o dywodfaen gyda chroes Geltaidd wedi'i cherfio arni. Yn ôl un traddodiad mae'n dynodi man claddu'r sant. Gerllaw ceir Ffynnon Gynydd sydd gyda charreg hynafol arall gyda chroes arno yn gorwedd drosti i gadw ei dŵr yn lân.[3]

Enwogion[golygu | golygu cod]

Philip Tanner (1862 - 1950), ceidwad caneuon a dawnsiau gwerin.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Rhagfyr 2021
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000), tud. 137.
  4. Jenkins, R. T., (1970). TANNER, PHILIP (1862 - 1950), ceidwad caneuon a dawnsiau gwerin. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019