Neidio i'r cynnwys

Pennard

Oddi ar Wicipedia
Pennard
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,639 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPenrhyn Gŵyr Edit this on Wikidata
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.577046°N 4.072274°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000975 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRebecca Evans (Llafur)
AS/auTonia Antoniazzi (Llafur)
Map
Castell Pennard

Pentref a chymuned ar benrhyn Gŵyr, yn sir Abertawe, yw Pennard. Saif tua 7 milltir i'r de-orllewin o ganol dinas Abertawe. Y canolfannau mwyaf poblog yn y gymuned yw Southgate a Kittle; pentref bychan yw Pennard ei hun. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 2,648.

Mae Castell Pennard, sydd gerllaw Three Cliffs Bay, yn dyddio o tua 1300, ond wedi ei adeiladu ar safle castell cynharach o tua 1150. Ceir gweddillion hen eglwys Pennard gerllaw. Claddwyd hon gan y twyni tywod yn y 14g, a defnyddiwyd rhan o'i deunydd i adeiladu yr eglwys newydd rhyw 2 km i'r dwyrain. Claddwyd y bardd Harri Webb yma.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pennard (pob oed) (2,688)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pennard) (264)
  
10.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pennard) (1800)
  
67%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Pennard) (512)
  
43.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]