Gellifedw

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Y Gellifedw)
Jump to navigation Jump to search
Y Gellifedw
Glais Church - geograph.org.uk - 830034.jpg
Eglwys Sant Ioan
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Abertawe Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.67°N 3.88°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000561 Edit this on Wikidata
Cod OS SS704981 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Mike Hedges (Llafur)
AS/au Carolyn Harris (Llafur)

Cymuned a phentref yn ninas Abertawe yw Birchgrove (weithiau: Y Gellifedw ("Cymorth – Sain" ynganiad )). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir, tua 6 millir o ganol Abertawe, fymryn i'r gogledd o draffordd yr M4, ac yn agos i'r ffîn gyda Castell-nedd Port Talbot. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Lôn-las a rhan o'r Glais yn ogystal a'r Gellifedw ei hun. Roedd y boblogaeth yn 2001 tua 6,500 ac erbyn 2011 roedd wedi codi i 7,392.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Mike Hedges (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Carolyn Harris (Llafur).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Maen hir carreg Bica
Pwll glo Scott, Y Gellifedw.

Arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yma. Agorwyd y pwll glo cyntaf yn 1845, ac yn ddiweddarach dechreuwyd gau arall. Caeodd Glofa Birchgrove yn 1931. Ceir nifer o olion o gyfnodau cynharach, yn cynnwys maen hir o'r enw Carreg Bica ar Fynydd Drumau, tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o Gellifedw.

Addysg yng Nghellifedw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan Y Gellifedw ysgol uwchradd a dwy ysgol gynradd. Mae'r dair ysgol yn rhai cyhoeddus, cymysg ac yn ddi-gyswllt o enwadau crefyddol. Fodd bynnag, o dan ddeddfwriaeth Prydeinig, rhaid i bob ysgol ddarparu cyfnod o addoli yn ddyddiol.

Agorwyd Ysgol Gyfun Gellifedw ym 1991 ar safle'r hen ysgol. Gwasanaetha ardaloedd Gellifedw, Glais a Chlydach. Serch hynny, mynycha nifer o ddisgyblion ardaloedd Glais a Chlydach ysgol uwchradd arall, Cwmtawe, tra bod disgyblion yn Llansamlet a'r Trallwyn yn mynychu ysgol Gelli Fedw yn hytrach na Chefn Hengoed.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Gellifedw (pob oed) (7,392)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Gellifedw) (1,022)
  
14.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Gellifedw) (6217)
  
84.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Y Gellifedw) (770)
  
25.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]