Ystum Llwynarth
| Math | pentref, ward |
|---|---|
| Poblogaeth | 4,160 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Abertawe |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2.01 km² |
| Cyfesurynnau | 51.5737°N 4.0072°W |
| Cod SYG | W05000538 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Etholaeth y DU | Tonia Antoniazzi (Llafur) |
![]() | |
Ardal a phentref yw Ystum Llwynarth (
ynganiad ) neu Ystumllwynarth (Saesneg: Oystermouth) sy'n gorwedd i'r de o ddinas Abertawe. Yn weinyddol, mae'n ward etholiadol sy'n rhan o gymuned Y Mwmbwls, yn Sir Abertawe. Heddiw mae'r enw Saesneg 'Oystermouth' yn fath o enw amgen am bentref Y Mwmbwls ei hun. Poblogaeth: 4,315 (Cyfrifiad 2001).
Mae ward etholiadol Ystum Llwynarth yn cynnwys: Norton, pentref Ystum Llwynarth, Y Mwmbwls, a Thistleboon, yn etholaeth seneddol Gŵyr. Mae'r ward yn ffinio ar Newton i'r gorllewin, West Cross i'r gogledd a Bae Abertawe i'r de a'r dwyrain. Mae'r ffin rhwng pentref Ystum Llwynarth a'r Mwmbwls yn annelwig erbyn heddiw, gyda phobl yn tueddu i'w gynnwys fel rhan o'r Mwmwbwls.

Hanes
[golygu | golygu cod]Yn yr Oesoedd Canol cynnar, roedd Ystum Llwynarth yn un o ganolfannau pwysicaf Teyrnas Gŵyr lle ceid clas a gysylltir â Sant Illtud. Yng nghyfnod y Normaniaid, codwyd Castell Ystum Llwynarth yno, un o brif ganolfannau milwrol cwmwd Gŵyr. Yn ôl traddodiad, roedd y brudiwr Rhys Fardd (neu'r 'Bardd Bach' neu'r 'Bardd Cwsg') (fl. 1460-80) yn frodor o Ystum Llwynarth.[1]
Sefydlwyd Rheilffordd Ystum Llwynarth (Oystermouth Railway) yn gynnar yn y 19g. Mae'r lein ar gau ers y 1960au ac yn cael ei defnyddio fel llwybr troed heddiw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth
