Bae Abertawe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Bae Abertawe
Mum lslade sm.jpg
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5833°N 3.9°W Edit this on Wikidata
Map

Bae ar lannau gogledd orllewinol Môr Hafren rhwng siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yw Bae Abertawe. Amgylchynnir y bae, yn wrth-glocwedd, gan y trefi Porthcawl, Port Talbot, Llansawel, Abertawe, Y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Mae'r Afon Nedd, Tawe, Afan a nant Blackpill yn llifo i'r bae. Mae Bae Abertawe yn profi un o'r ystodau mwyaf o donnau yn y byd gydag uchafswm o tua 10m.

Yn y 2010au crewyd cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe sef Lagŵn Bae Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Arferid pysgota am wstrys fod yn ddiwydiant pwysig yn Abertawe, gan gyflogi 600 o bobl yn ystod y 1860au. Fodd bynnag, o ganlyniad i or-bysgota, afiechydon a llygredd diflannodd yr wstrys bron yn llwyr erbyn 1920. Yn 2005, cyflwynwyd cynllun er mwyn ail-gyflwyno'r diwydiant.

Ym mis Medi 2005 roedd y Bae yn lleoliad i lofruddiaeth Ben Bellamy.

Panorama o Fae Abertawe
Bae Abertawe
Bae Abertawe o'r gofod


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. www.tidallagoonswanseabay.com; adalwyd 18 Mehefin 2015