Gorseinon

Oddi ar Wicipedia
Gorseinon
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPloermael Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.66°N 4.03°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000964 Edit this on Wikidata
Cod OSSS585985 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMike Hedges (Llafur)
AS/auCarolyn Harris (Llafur)
Map

Tref a chymuned yn Sir Abertawe yw Gorseinon. Fe'i lleoli ger aber Afon Llwchwr, tua 6 milltir i'r gogledd-orllewin o ganol y ddinas. Mae Gorseinon hefyd yn gymuned llywodraeth leol gyda chyngor etholedig yn y dref. Pentref bychan ydoedd tan diwedd y 19g pan dyfodd yn sgîl y diwydiannau glo a thunplat.

Mae Caerdydd 63.9 km i ffwrdd o Orseinon ac mae Llundain yn 273.5 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 7.2 km i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]

Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd gan ardal cyngor tref Gorseinon boblogaeth o 7,814. Fodd bynnag, diffinia Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol y DU ardal a elwir Ardal Drefol Gorseinon sy'n cynnwys yr ardaloedd mwy poblog yn ac o amgylch Gorseinon. Mae'r ardal hon yn cynnwys Gorseinon, Casllwchwr, Pentre'r Ardd a Penlle'r-gaer ac roedd iddi boblogaeth o 19,273.

Eglwys Santes Catherine yng Ngorseinon

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Gorseinon (pob oed) (8,693)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Gorseinon) (1,113)
  
13.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Gorseinon) (7467)
  
85.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Gorseinon) (1,394)
  
37.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl enwog o Orseinon[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]