Philip Tanner

Oddi ar Wicipedia
Philip Tanner
Ganwyd16 Chwefror 1862 Edit this on Wikidata
Llangynydd Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 1950 Edit this on Wikidata
Penmaen Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Arddullcanu gwerin Edit this on Wikidata

Roedd Philip Tanner (16 Chwefror 186219 Chwefror 1950) yn wehydd Cymreig a fu'n gyfrifol am sicrhau bod nifer o ganeuon a dawnsiau gwerin Bro Gŵyr wedi eu cadw.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Tanner yn Llangynydd, Gŵyr yn fab ieuengaf i Isaac Tanner a Jennet (née Guy) ei wraig.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Roedd y teulu Tanner wedi bod yn arfer crefft y gwehydd gwlân yn ardal Abertawe am genedlaethau. Dysgodd Philip y grefft gan ei dad a bu'n cynorthwyo ym musnes ei dad hyd gyrraedd 24 mlwydd oed ym 1886 pan briododd gwraig weddw o'r enw Ruth Nicholas. Roedd Ruth yn 50. Roedd diweddar ŵr Ruth yn cadw tŷ tafarn efo ychydig o dir fferm ynghlwm iddi. Gobaith Tanner oedd y byddai ei briodas yn caniatáu iddo ef cadw'r tafarn a gweithio'r tir. Roedd y tirfeddiannwr, Mr Penreice, wedi ffieiddio bod gŵr ifanc wedi priodi gwraig weddw dwywaith ei oed ac yn credu ei fod wedi gwneud hynny dim ond i gael ei ddwylo ar y dafarn, gan hynny fe drodd y teulu allan o'r tir a gan nad oedd modd gwneud bywoliaeth o'r dafarn yn unig bu'n raid ei gau.[2] Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach bu Tanner yn cwyno am y ffordd cafodd ei drin i Gomisiwn Tir Cymru a sefydlwyd i edrych i mewn i'r ffordd roedd landlordiaid yn trin eu tenantiaid. Wedi colli'r dafarn aeth Tanner i weithio fel labrwr amaethyddol.[3]. Erbyn cyfrifiad 1911 roedd Tanner wedi llogi melin ac yn gweithio fel melinydd ŷd.[4] Roedd hefyd yn parhau i wneud rhywfaint o waith gweu gan fod pobl yn ei gofio fel un o'r olaf i wisgo brethyn cartref wedi ei wneud yn arddull traddodiadol Bro Gŵyr.[1]

Ceidwad llên gwerin[golygu | golygu cod]

Wedi dysgu nifer o ganeuon a dawnsfeydd traddodiadol Gŵyr Seisnig gan aelodau hŷn ei deulu a'u cymdogion, bu'n gwasanaethu fel ‘gwahoddwr’ ar gyfer priodasau. Byddai gwahoddwr yn mynd o ddrws i ddrws yn canu neu'n adrodd penillion i wahodd pobl i'r briodas, i ganu clodydd yr arlwy byddai ar gael i'r gwesteion ac yn eu hannog i fod yn hael wrth anrhegu'r cwpl ifanc. Daeth yn enwog yn ei fro fel un byddai'n diddanu ar lwyfannau a thafarnau lleol.

Ym 1932 bu'n canu mewn gwersyll haf i bobl di waith. Ymysg y myfyrwyr oedd yn rhedeg y gwersyll oedd y canwr gwerin a chasglwr alawon gwerin F A Bracey. Ym 1937 estynnodd Bracey gwahoddiad i Tanner i fynd i Lundain i recordio rhai o'i ganeuon i Gymdeithas Caneuon Gwerin Prydain. Ar yr un daith bu hefyd yn recordio rhai o'i ganeuon i'r BBC. Yn niweddarach yr un flwyddyn recordiodd rhai o'i ganeuon i gwmni Columbia. Recordiodd casgliad arall o ganeuon ym 1949 i Columbia. Mae ei recordiau wedi eu hail ddefnyddio ar nifer o gasgliadau caneuon gwerin. Bu Cymdeithas Hynafiaethau Bro Gŵyr hefyd yn gyfrifol am gadw lawer o'i wybodaeth ar glawr.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn y Penmaen Eventide Home ym Mhenmaen Gwŷr yn 88 mlwydd oed.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Jenkins, R. T., (1970). TANNER, PHILIP (1862 - 1950), ceidwad caneuon a dawnsiau gwerin. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 16 Awst 2019
  2. "THE WELSH LAND COMMISSION - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1893-05-27. Cyrchwyd 2019-08-16.
  3. "THE WELSH LAND COMMISSION - The Cambrian". T. Jenkins. 1893-06-02. Cyrchwyd 2019-08-16.
  4. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911, RG14/32821; atodlen rhif 29: Llangennith Reynoldston Glam
  5. Phil Tanner: The Taplas and Picture Post articles - Folk Wales adalwyd 17 Awst 2019

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Philip Tanner yn canu The Gower Wassail Song ar YouTube