Rhosili

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Bae Rhosili)
Jump to navigation Jump to search
Rhosili
Rhosilli village from the air.jpg
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Abertawe Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.5686°N 4.2869°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000593 Edit this on Wikidata
Cod post SA3 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rebecca Evans (Llafur)
AS/au Tonia Antoniazzi (Llafur)

Pentref bychan ym mro Gŵyr, de-orllewin Cymru, yw Rhosili ("Cymorth – Sain" ynganiad )(hefyd Rhossili). Mae'n gorwedd ar ben gorllewinol Penrhyn Gŵyr, tua 14 milltir i'r gorllewin o ddinas Abertawe. Mae traeth Bae Rhosili yn enwog am ei dywod braf.

Ger y pentref mae Ogof Paviland. Yn yr ogof honno darganfuwyd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pafiland".

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]

Traeth Rhosili

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhosili (pob oed) (278)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhosili) (23)
  
8.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhosili) (169)
  
60.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Rhosili) (43)
  
37.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013