Parc Bute
| Math | parc |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Caerdydd |
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Cyfesurynnau | 51.489°N 3.189°W |
![]() | |
Ardal eang o barcdir aeddfed o fewn cyrraedd canol dinas Caerdydd yw Parc Bute (Saesneg: Bute Park). Gorwedda rhwng Afon Taf, Gerddi Sophia, Caeau Pontcanna a Chastell Caerdydd. Mae'r parc hanesyddol hwn yn boblogaidd iawn gan bobl leol, gweithwyr canol y ddinas, ac ymwelwyr ac yn gweithredu fel "ysgyfaint gwyrdd" yng nghanol y ddinas brysur. Prin yw'r dinasoedd yng nglwedydd Prydain sydd ag ehangder gwyrdd mor sylweddol yn eu canol. Rhed Llwybr Taf trwy'r parc a cheir mynediad iddo o gornel Caeau Blackweir. O Bont Canna, ger Stadiwm y Mileniwm, ar ymyl y parc gellir dal bws dŵr i Fae Caerdydd ac ymlaen i bentref Penarth.
Cynhaliwyd gŵyl fawr Gymraeg Tafwyl ym Mharc Bute yn 2022, 2023, a 2024. Croesawyd dros 30,000 o bobl i'r digwyddiad am ddim oedd yn cynnwys cyngherddau pop Cymraeg, stondinau, darlithoedd a chyflwyniadau.[1]

Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Parc Bute[dolen farw] ar wefan Cyngor Dinas Caerdydd
