Afon Llwchwr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Llwchwr
River Loughor downstream.JPG
Math Afon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.6667°N 4.0833°W Edit this on Wikidata
Llednentydd Afon Aman Edit this on Wikidata
Dalgylch 262 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Afon Llwchwr ger ei haber

Mae afon Llwchwr (Saesneg: River Loughor) yn Sir Gaerfyrddin yn dechrau o lyn dan ddaear yn y Mynydd Du. Mae'n llifo heibio trefi megis Rhydaman a'r Hendy yn Sir Gaerfyrddin a Pontarddulais yn sir a dinas bwys dref Abertawe. Mae'r afon yn gwahanu Sir Gaerfyrddin oddi ar Abertawe am y rhan fwyaf o'i chwrs ac mae'n gwahanu Hendy a Pontarddulais cyn gynted ag y mae'n troi'n forol. Mae'r Llwchwr yn cwrdd â'r môr ar ei haber ar bwys tref Llwchwr, lle y mae'n gwahanu arfordir deheuol Sir Gaerfyrddin o arfordir gogleddol y Gŵyr.

Un o'r afonydd sy'n ymuno ym Mhantffynnon yw afon Aman.

Yn Abertawe yn y 18g, roedd gan yr afon enw da am sewin ac eogiaid. Roedd y pysgod a dalwyd yn yr afon yn cael ei hel lawr at farchnad Abertawe ar gefn merlod. Lleihaodd pysgota yn y 19g oherwydd llygredd o'r diwydiannau ffyniannus yn yr ardal yn y cyfnod hwnnw.

CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato