Aberddawan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Aberddawan
Aberthaw Cement Works WALES - panoramio.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.391°N 3.389°W Edit this on Wikidata
Cod postCF62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)

Pentref ym Mro Morgannwg ar arfordir de Cymru yw Aberddawan (llurguniad Seisnig: Aberthaw). Saif y pentref ar lan aber Afon Ddawan tua 4 milltir i'r dwyrain o Lanilltud Fawr. Fe'i ymrennir yn ddwy ran, Gorllewin a Dwyrain Aberddawan.

Bu'n borthladd bach prysur yn y 18g gyda nifer o longau bychain yn hwylio ryngddo â Bryste a Gwlad yr Haf, dros Fôr Hafren.

Y rheilffordd ger Pwerdy Aberddawan

Heddiw mae Aberddawan yn enwog am Bwerdy Aberddawan, un o'r mwyaf yn y De, a Gwaith Sment Aberddawan.

Tua 2 filltir i'r dwyrain ceir Maes Awyr Caerdydd, yn Y Rhws, ac i'r gogledd ceir maes awyr RAF Sain Tathan.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[1][2]

Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dynodwyd Arfordir Aberddawan yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014