Llandŵ

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llandŵ
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Bro Morgannwg Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.4487°N 3.5223°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000657 Edit this on Wikidata
Cod OS SS942734 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Jane Hutt (Llafur)
AS/au Alun Cairns (Ceidwadwr)

Pentref bychan yng nghanol Bro Morgannwg, Cymru, yw Llandŵ (Saesneg: Llandow). Gorwedd y pentref tua 15 milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd a thua tair milltir a hanner i'r gorllewin o'r Bont-faen.

Yn yr Ail Ryfel Byd roedd Llandŵ yn gartref i un o feysydd awyr y RAF. Heddiw mae rhan o'r hen wersyll yn faes rasio ceir. Ar 12 Mawrth 1950, digwyddodd y ddamwain awyr fwyaf difrifol yn hanes Cymru yn Llandŵ pan darodd awyren gyda nifer o gefnogwyr rygbi Cymru yn dychwelyd o gem yn Nulyn ar ei fwrdd y llawr wrth geisio glanio. Collodd 80 o bobl eu bywydau.[1]

Cofeb Trychineb Awyr Llandŵ.

Bu'r Eisteddfod Genedlaethol Cymru yma yn 2012 - ar yr hen faes awyr yn Llandŵ.[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Jane Hutt (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Alun Cairns (Ceidwadwr).[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruBroMorgannwg.png Eginyn erthygl sydd uchod am Fro Morgannwg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.