Ffagan
Gwedd
Ffagan | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 2 g |
Cysylltir gyda | Dyfan |
Dydd gŵyl | 3 Ionawr |
Sant chwedlonol yw Ffagan (Lladin: Faganus); cysegrwyd eglwys San Ffagan ger Caerdydd iddo.
Ymddengys yng ngwaith Sieffre o Fynwy, yr Historia Regum Britanniae, fel un o'r ddau genhadwr y dywedir i'r Pab Eleutherius ei yrru at y Brythoniaid. Ymddengys mai dylanwad hanesion Sieffre sy'n gyfrifol am gysegru'r eglwys iddo.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0