Eglwys Llanilltud Fawr
Gwedd
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanilltud Fawr ![]() |
Sir | Bro Morgannwg |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 36.4 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.408°N 3.4877°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru ![]() |
Cysegrwyd i | Illtud ![]() |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llandaf ![]() |
Eglwys hynafol yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, yw Eglwys Sant Illtud.
Yn yr eglwys hon mae Croes Samson a nifer o gerrig hynafol eraill yn sefyll.
Croes
[golygu | golygu cod]
Mae'n debyg bod y groes yn y fynwent yn dyddio o'r 15fed ganrif ond mae wedi'i hatgyweirio dros y blynyddoedd. Ychwanegwyd y rhan uchaf ym 1919. Fe'i rhestrwyd gan CADW fel "croes ganoloesol gyda diddordeb hanesyddol ychwanegol fel cofeb i'r Rhyfel Byd Cyntaf".[1]
Capel Galilea
[golygu | golygu cod]Gwaddolwyd Capel Galilea fel siantri gan Syr Hugh Rhaglan tua 1470–80. Mae bellach yn cynnwys pedair carreg Geltaidd a ddarganfuwyd yn y cyffiniau.[2]
Teledu
[golygu | golygu cod]Mae'r eglwys yn ymddangos yn The Story of Wales gan y BBC, gyda Huw Edwards, a The Great British Story, gyda Michael Wood.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cross in Churchyard of St Illtud". British Listed Buildings. Cyrchwyd 23 Chwefror 2025.
- ↑ "The Galilee Project" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2018. Cyrchwyd 2 March 2014.