Edward Stradling

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Edward Stradling
Ganwyd c. 1529 Edit this on Wikidata
Bu farw 1609 (in Julian calendarEdit this on Wikidata (80 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gwleidydd, hynafiaethydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the April 1554 Parliament, Member of the 1558 Parliament Edit this on Wikidata
Paentiad olew o Edward a'i wraig Agnes yn 1590.

Ysgolhaig a pherchennog llyfrgell enwog Sain Dunwyd oedd Syr Edward Stradling (15291609), mab hynaf Syr Thomas Stradling. Roedd yn un o'r bobl a arwyddodd rôl pardwn Elisabeth I, brenhines Lloegr, 1559. Mewn cywydd iddo, nododd y bardd o Forganng, Meurig Dafydd, (c. 1510–95) ei fod yn rhugl mewn saith iaith. Roedd yn un o brif noddwyr llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod. Fe'i claddwyd yng Nghastell Sain Dunwyd.

Fe'i benodwyd yn aelod seneddol dros Steyning yn 1554, ac Arundel yn 1557-8. Fe'i urddwyd yn farchog yn 1573 a bu'n siryf Morgannwg o 1573-4, 1582-3 ac o 1595-6. Bu'n gyfrifol am lawer o welliannau yn adeiladau a gerddi Sain Dunwyd ac ar ei stadau, ynghyd â môrgloddiau a phorthladd yn Aberddawan.

Noddwr llenyddiaeth Gymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ef oedd noddwr Siôn Dafydd Rhys, a thalodd gost argraffu 1,250 copi o'i ramadeg Cambrobrytannicæ Linguæ Institutiones yn 1592.[1] Roedd hefyd yn gyfaill i Blanche Parry ac Edward Lhuyd.[2]

Cyhoeddwyd detholiad o'r llythyrau a dderbyniodd, o gopi, yn y Stradling Correspondence, 1840. Rhwng 1561 a 1571 ysgrifennodd draethawd ar oresgyniad Normanaidd Morgannwg a gynhwyswyd gan y Dr. David Powel yn yr Historie of Cambria, 1584. Cydnabu Lewys Dwnn ei ddyled iddo hefyd.

Etifedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd ag Agnes (1547 - 1624), merch Syr Edward Gage ac ni chawsant blant ond mabwysiadodd y ddau berthynas iddynt, John. Roedd John yn fab Francis Stradling S. George, Bryste, mab Harri Stradling, ail fab Thomas Stradling (m. 1480) a Sioned Mathau.

Addysgwyd y John Stradling hwn yn Rhydychen gan dderbyn gradd B.A. yn 1584, cyn teithio ar y Cyfandir. Bu'n siryf Morgannwg yn 1607, 1609 ac yn 1620 ac urddwyd ef yn farchog yn 1608 ac yn farwnig yn 1611. Bu'n aelod seneddol dros S. Germans (Cernyw) 1623-4, Old Sarum 1625, a Sir Forgannwg 1625-6. Sefydlodd ysgol ramadeg yn y Bont-faen breuddwyd nas cyflawnwyd gan Syr Edward Stradling.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein' Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 10 Ebrill 2017.
  2. (Saesneg) Kennedy, Ross. "Leyson, Thomas". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/16632.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]