Calsiwm carbonad
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | halwyn calsiwm, halwyn carbonad |
Màs | 99.947335 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | Caco₃ |
Clefydau i'w trin | Dolur ar y dwodenwm, hematochezia, clefyd adlif gastro-oesoffagaidd, wlser gastrig, llosg cylla, clefyd cronig yr arennau, diffyg traul, osteoporosis, peptic esophagitis, clefyd wlser peptig |
Yn cynnwys | calsiwm, ocsigen, carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfansoddyn cemegol a deunydd crisialog gwyn, CaC03, sy'n hydawdd mewn dŵr asidig ydy Calsiwm carbonad.
Mae creigiau, megis calchfaen, sy'n cynnwys y mwyn hwn, yn araf hydoddi mewn dŵr glaw asidig (asid carbonig gwan). Dyma brif ddeunydd perlau, cregyn malwod a wyau.
Calsiwm carbonad yw'r prif cynhwysyn calch yn y byd amaethyddol. Mae sodiwm carbonad, copr carbonad, magnesiwm carbonad a sinc carbonad yn adweithio gydag asid – gan wneud sŵn hisian pan ddônt i gysylltiad ag asid. Fe ddefnyddir calsiwm carbonad mewn dull meddygol, yn enwedig pan geir diffyg calsiwm yn y corff, ond gall gormod ohon fod yn beryglys.
Cemeg
[golygu | golygu cod]Mae calsiwm carbonad yn rhannu nifer o nodweddion gyda charbonadau eraill, gan gynnwys:
- mae'n adweithio gyda asidau gan ryddhau carbon deuocsid:
- CaCO3(s) + 2H+(aq) → Ca2+(aq) + CO2(g) + H2O
- mae'n rhyddhau carbon deuocsid pan gaiff ei wresogi (sef adwaith dadelfennu thermal) neu galchu, (i fwy na 840 °C yn achos CaCO3), i ffurfio calsiwm ocsid, a elwir yn aml yn 'galch brwd' neu'n 'galch poeth', gyda'r adweithiad yn 178 kJ / mole:
- CaCO3 (s) → CaO (s) + CO2 (g)
Mae calsiwm carbonad yn adweithio gyda dŵr sy'n ddirlawn o garbon deucsid i ffurfio sodiwm bicarbonad soled.
- CaCO3 + CO2 + H2O → Ca(HCO3)2
Mae'r adwaith hwn yn hynod o bwysig yn y broses o erydu creigiau calchfaen, ac mae'n ffurfio ogofâu a cheudyllau, ac yn ffurfio dŵr caled mewn rhai mannau.
Defnyddiau calchfaen eraill
[golygu | golygu cod]Calsiwm hydrocsid: pan mae calchfaen yn cael ei wresogi'n gryf, mae'r calsiwm carbonad sydd ynddo’n dadelfennu gan ffurfio calsiwm ocsid.