Casa Batlló

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 41°23′30″N 2°09′54″E / 41.39167°N 2.16500°E / 41.39167; 2.16500

Casa Batlló
Enwau eraill Casa dels ossos
(Y Tŷ o Esgyrn)
Gwybodaeth gyffredinol
Tref neu ddinas Barcelona
Renovating team
Architect Antoni Gaudí
Other designers Domènec Sugrañes i Gras, Josep Canaleta, Joan Rubió
Gwefan
casabatllo.cat

Adeilad yw'r Casa Batlló sydd wedi'i leoli yn agos i ganol Barcelona yng Nghatalwnia ac sy'n cael ei gyfrif yn un o gampweithiau'r pensaer Antoni Gaudí. Ailbobiad o adeilad cynharach ydyw mewn gwirionedd, fe'i cynlluniwyd yn 1904 gan Gaudí ac ailwampiwyd ef sawl tro wedi hynny. Roedd gan Gaudí gynorthwywyr yn y broses o gynllunio adeiladau, ac wrth ei lawes y tro hwn roedd Domènec Sugrañes i Gras, Josep Canaleta a Joan Rubió. Yr enw lleol am yr adeilad ydy Casa dels ossos, sef 'Y Tŷ a wnaed o Esgyrn', oherwydd ei bryd a'i wedd 'esgyrnog'.

Yn wreiddiol, cafodd ei gynllunio ar gyfer dinasyddion dosbarth canol y ddinas ac roedd mewn ardal eitha cyfoethog o Farcelona. Yn 2005 dynodwyd y Casa Batlló yn Safle Treftadaeth rhyngwladol.[1]

Fel llawer o adeiladau Gaudí, mae'n hawdd adnabod yr adeilad fel un o'i weithiau oherwydd ei arddull unigryw sydd wedi'i seilio i raddau helaeth ar Modernisme neu Art Nouveau. Mae'r llawr gwaelod yn annerfol iawn oherwydd y delltwaith, y ffenestri ofal a'r gwaith carreg sy'n llifo o'r naill ochr i'r llall. Llond dwrn o linellau syth a phlwm sydd drwy'r lle ac mae llawer o'r ffasâd wedi'i addurno gyda theils mosäig (trencadís). Mae'r to'n fwaog ac fe'i cyffelybir yn aml i gefn draig neu ddeinosor. Dywedir fod y rhan i'r chwith o'r canol yn debyg i bicell nawddsant Catalwnia, sef San Sior, yn trywanu draig, yn ei chefn.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr adeiladu gwreiddiol (1877)[golygu | golygu cod y dudalen]

Antoni Gaudí yn 1910

Adeiladwyd y tŷ gwreiddiol yn 1877 gan Antoni Gaudi yn dilyn comisiwn gan Lluís Sala Sánchez. [2] Cyn hynny, adeilad clasurol ei olwg, a digon di-nod ydoedd, a hynny ar ddiwedd y 19g.[3] Roedd gan yr adeilad seler, llawr gwaelod, pedwar llawr arall a gardd yn y cefn.[4]

Teulu'r Batlló[golygu | golygu cod y dudalen]

Prynnwyd y tŷ gan Josep Batlló yn 1900. Roedd cynllun y tŷ'n fler i brynwyr newydd, ond prynnwyd ef gan y teulu oherwydd ei leoliad - yn agos i ganol y dref. Fe'i lleolwyd yng nghanol y Passeig de Gracia, a oedd yn yr 20g cynnar yn lle dymunol, ffasiynol a chyfoethog. I[4]

Gwnaeth Josep Batlló I Casanovas ei arian yn y diwydiant tecstiliau, ac roedd y teulu'n eithaf adnabyddus ym Marcelona. Roedd e'n berchen nifer o ffatrioedd yn y ddinas. Priododd Amalia Godo Belaunzaran, a oedd o'r teulu a sefydlodd y papur newydd La Vanguardia. Roeddent ill dau'n awyddus i roi penrhyddid llwyr i Gaudí i wneud yr hyn a fynno - er mwyn bod yn wahanol, yn flaenllaw ac yn greadigol.

Dewisiodd y pensaer a oedd wedi creu Park Güell. Bu'r teulu fyw yn y tŷ hwn hyd at ganol y 1950au.[5]

Adnewyddu (1904-1906)[golygu | golygu cod y dudalen]

Y cyntedd; darbwyllodd Gaudí Batlló i adael iddo ehangu'r prif gyntedd er mwyn ei oleuo.

Yn 1904 huriodd Josep Batlló Gaudí i gynllunio'i gartref cyntaf; ar y cychwyn roedd yn awyddus i ddymchwel y cwbwl o'r hen adeilad a chodi tŷ newydd sbon. Fe'i darbwyllwyd, fodd bynnag, i'w adnewyddu a chyflwynwyd y cais cynllunio yn yr un flwyddyn. Cwbwlhawyd y cyfan yn ystod 1906. Enwebwyd y tŷ ar gyfer gwobr gynllunio, gan Gyngor Tref Barcelona, ond ni chafodd y brif wobr.

Adnewyddu pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Josep Batlló yn 1934 a chadwyd y lle'n union fel ag yr oedd hyd nes i'w wraig Amalia farw yn 1940. Y plant fu'n cadw'r tŷ wedi hynny, nes iddo gael ei drosglwyddo i gwmni yswiriant Seguros Iberia ddefnyddio'r lle fel swyddfeydd. Yn 1970 y cafwyd y gwaith adnewyddu pennaf - ym mhrif ystafelloedd y tŷ. Yn 1983 adferwyd y balconïau gan droi'n ôl i'r lliwiau gwreiddiol. Flwyddyn yn ddiweddarach goleuwyd y ffrynt mewn seremoni o'r enw La Mercè.

Defnydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1993, prynwyd yr adeilad gan y perchnogion presennol. Aethant ati i adnewyddu'r holl adeilad, ond yn gosmetig yn hytrach nag yn strwythurol. Huriwyd y lle ar gyfer digwyddiadau arbennig a phrofwyd fod galw mawr amdano, yn bennaf oherwydd y lleoliad, yr enw a'r graen wrno.

Llofft[golygu | golygu cod y dudalen]

Casa Batlló Parabolic Arches.jpg

Dyma un o'r rhannau mwyaf unigryw a gwahanol. Arferai fod yn rhan ar gyfer gwasanaethau'r amryw denantiaid yn yr adeilad. Roedd ynddo ran ar gyfer golchi dillad a man storio. Mae'n hynod am ei siapau syml, Canoldirol, gyda'i waliau gwynion. Mae ynddo 60 o fwâu cadwynog sy'n uno i greu le gwag (neu ofod) tebyg i asennau anifail. yng ngolwg rhai, dyma asennau'r ddraig a geir yn y to.

Y llawr pendefigaidd a'r amgueddfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Casa Batlló (Antoni Gaudi) (interior), 43, Passeig de Gràcia, Eixample, Barcelona, Catalonia, Spain.jpg

Mae ei arwynebedd yn fwy na 700 metr sgwâr a dyma brif lawr yr adeilad.

Cyrhaeddir y llawr drwy fynedfa preifat ar ffurf neuadd, a cheir yma waliau bwaog a siapau crwm. Oddi yma gwelir teiliau glas y ffynnon olau, a stydy Mr. Batlló, festejador a chilfach dawel ar gyfer cariadon, wedi'i gynhesu gan le tân siap madarchen. Mae'r décor yn debyg i anifail, ac i'w weld drwy gydol y llawr pendefigaidd.

Yn 2002 yr agorwyd y drysau i'r cyhoedd, a dyma'r prif lawr ar gyfer y cyhoedd. Fe'i agorwyd o ganlyniad i Flwyddyn Rhyngwladol Gaudí; ddwy flynedd yn ddiweddarach agorwyd y pumed llawr hefyd ar gyfer y cyhoedd, ac yna'r ffynnon olau.

Y to[golygu | golygu cod y dudalen]

Jfader batto roof.jpg

Mae'r teras ar y to yn un o'r nodweddion mwyaf poblogaidd oherwydd y cynllun du, dreigaidd. Cynrychiolir y ddraig drwy ddefnyddio teiliau o liwiau gwahanol ar un ochr. Ceir pedair simnai.[6]

Y ffasâd allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

CasaBatllo 0170.JPG

Mae gan y ffasâd dair rhan gwahanol, ond integreiddir y cyfan mewn cynghanedd. Defnyddir tywodfaen Montjuïc yn helaeth - sydd unwaith eto'n llifo drwy'r lle. Mae'r rhan canolog, sy'n cyrraedd y llawr cyntaf, yn amryliw, gyda balconiau'n ymestyn allan. Ceir ffurf siap coron ar do'r tŷ, sy'n gymorth i guddio'r tanciau dŵr.

Galeri[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [1]
  2. Bassegoda i Nonell, Joan (2001). La Casa Batlló (in Spanish). Barcelona: Publicaciones de la Real Cátedra Gaudí. p. 4. Adalwyd Mawrth 8, 2012.  Check date values in: |access-date= (help)
  3. Bassegoda i Nonell, Joan (2001). Los jardines de Gaudí (in Spanish). Edicions UPC. p. 75. ISBN 9788483015384. 
  4. 4.0 4.1 [2]
  5. Gwefan Casa Batlló; adalwyd 2 Medi 2014
  6. [3]