Thomas Bayes
Thomas Bayes | |
---|---|
Ganwyd | 1702 Llundain |
Bu farw | 17 Ebrill 1761 Royal Tunbridge Wells |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | mathemategydd, ystadegydd, clerig, athronydd |
Swydd | gweinidog yr Efengyl |
Adnabyddus am | An Essay towards solving a Problem in the Doctrine of Chances, theorem Bayes-Price |
Tad | Joshua Bayes |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
llofnod | |
Athronydd ac ystadegwr o Swydd Hertford, Lloegr, oedd y Parch. Thomas Bayes (c. 1701 – 7 Ebrill 1761)[1]. Mae'n nodedig am theorem Bayes a enwyd ar ei ôl, ond na chyhoeddwyd tan wedi ei farwolaeth. Ei gyfaill, y dyngarwr byd enwog Richard Price a sylwodd ar y wybodaeth newydd hon, wrth iddo fynd drwy ei bapurau wedi'r angladd.[2]
Cynigiodd Thomas Bayes ateb i broblem 'gwrthdro tebygolrwydd' (inverse probability) mewn ysgrif fechan a luniodd "An Essay towards solving a Problem in the Doctrine of Chances" a ddarllenwyd i'r Gymdeithas Frenhinol yn 1763, wedi ei farwolaeth. Richard Price wthiodd y theori hwn gan ei ddatblygu a'i gyhoeddi y flwyddyn dilynol mewn ysgrif o'r enw Philosophical Transactions of the Royal Society of London. Roedd y theori'n cynnig dadl dros raniad unffurf o'r paramedr binomaidd yn hytrach na'i gynosod mewn modd cyffredinol.[3]
Cyhoeddodd ddau lyfr yn ystod ei oes, un ohonynt am fathemateg: An Introduction to the Doctrine of Fluxions, and a Defence of the Mathematicians Against the Objections of the Author of The Analyst (heb ei enw, 1736), pan ddadleuodd dros sylfaen rhesymegol theori Isaac Newton ar galcwlws ac yn erbyn dadleuon negyddol George Berkeley, awdur The Analyst.
Hanes cynnar
[golygu | golygu cod]Roedd Thomas Bayes yn fab i weinidog Anghydffurfiol o Lundain: Joshua Bayes,[4] ac fe'i magwyd o bosib yn Swydd Hertford, Lloegr.[5] Roedd ei dad o deulu anghydffurfiol o Sheffield yn wreiddiol. Yn 1719, yn ddeunaw oed, aeth Thomas i Brifysgol Caeredin i astudio rhesymeg a diwynyddiaeth. Pan ddychwelodd yn 1722, cynorthwyodd ei dad yn ei gapel yn Llundain cyn symud i Tunbridge Wells, Caint, tua 1734. Yno, gweinidogaethodd ar gapel Mount Sion hyd at 1752.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Belhouse, D.R. The Reverend Thomas Bayes FRS: a Biography to Celebrate the Tercentenary of his Birth; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd Tachwedd 2015
- ↑ McGrayne, Sharon Bertsch. (2011). The Theory That Would Not Die p. 10., tud. 10, ar Google Books
- ↑ Edwards, A. W. G. "Commentary rhon the Arguments of Thomas Bayes," Scandinavian Journal of Statistics, Cyfrol 5, Rhif 2 (1978), tt. 116–118; adalwyd 6 Awst 2011
- ↑ . Dictionary of National Biography. Llundain: Smith, Elder & Co. 1885–1900.
- ↑ Oxford Dictionary of National Biography, erthygl ar Bayes gan A. W. F. Edwards.
- ↑ "The Reverend Thomas Bayes FRS- A Biography" (PDF). Institute of Mathematical Statistics. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2010.