Richard Price (AS Maesyfed)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Price
Ganwyd 1773 Edit this on Wikidata
Tref-y-clawdd Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Ebrill 1861 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Roedd Richard Price (1773 - 10 Ebrill, 1861) yn wleidydd Torïaidd Cymreig. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Bwrdeistref Maesyfed o 1799 i 1847.[1]

Roedd Price yn fab hynaf Richard Price, cyfreithiwr o Norton Manor, Trefyclo a Margaret merch Charles Humphreys, cyfreithiwr neuadd Pennant Hall, Trefaldwyn bu ei ewythr Chase Price yn AS Sir Faesyfed o 1768 i 1777. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Rhydychen.

Roedd sedd Maesyfed yn un dan nawdd 5ed Iarll Rhydychen, ewythr yr Iarll sicrhaodd y sedd ar gyfer Price pan ddaeth yn wag ym 1799. Ar ôl cael ei ethol am y tro cyntaf aeth Price ati i ddatblygu sylfaen o gefnogaeth bersonol yn yr etholaeth ac o fewn cyfnod o ddeng mlynedd yr oedd yn gallu gwrthwynebu diddordebau Rhydychen ym Maesyfed.

Ni fu yn aelod seneddol gweithgar yr oedd yn cefnogi'r gweinyddiaethau Torïaidd mewn pleidlais ond erbyn 1832 ei unig gyfraniadau i ddadleuon ar lawr Tŷ'r Cyffredin oedd rai i wrthwynebu diwygio'r senedd.

Bu farw Ebrill 10, 1861, yn 88 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. PRICE, Richard (1773-1861), of Knighton, Rad. The History of Parliament online [1] adalwyd 18 Mai 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Is-iarll Malden
Aelod Seneddol Bwrdeistref Maesyfed
17991847
Olynydd:
Thomas Frankland Lewis