Awyren

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Airbus A380, awyren deithwyr fwyaf y byd.

Cerbyd neu beiriant sy'n medru hedfan gan ddefnyddio'r awyr i'w chynnal ei hun yw awyren. Yn aml defnyddir y gair yn yr ystyr awyren drymach nag aer, ag iddi adenydd sefydlog, ac yn benodol eroplen, ond yn wir gall "awyren" gyfeirio at unrhyw beiriant hedfan gan gynnwys awyrennau ysgafnach nag aer megis balŵn.[1] Nid yw roced, ar y llaw arall, yn cael ei chynnal gan yr awyr o'i chwmpas ac felly, nid yw'n awyren.

Awyrennu yw'r maes sy'n ymwneud â chludiant hedfan a'r diwydiant awyrennau, ac awyrenneg yw astudiaeth, dyluniad a gwneuthuriaid awyrennau.

Mathau o awyrennau[golygu | golygu cod y dudalen]

Awyren ysgafnach nag aer[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Balŵn: Mae'r balŵn yn wrthrych ysgafnach nac aer, ac felly'n codi o'r ddaear. Mae'n dibynnu ar y gwynt i symud dros y wlad; y peilot yn gallu codi neu ddisgyn y balŵn yn unig.
  • Awyrlong: Mae'r awyrlong yn wrthrych ysgafnach nac aer, ac felly'n codi o'r ddaear. Yn wahanol i'r balŵn aer poeth, fodd bynnag, mae ganddi beiriant sy'n ei galluogi i symud dan ei stêm ei hun, yn hytrach na dibynnu ar y gwynt.

Awyren drymach nag aer[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhaid i awyren sy'n drymach na'r aer o'i chwmpas fedru gwthio'r aer tuag i lawr, gan gynhyrchu adwaith sy'n gwthio'r awyren ei hun tuag i fyny. Mae'n hanfodol hefyd fod siâp yr awyren, o ran aerodynameg yn gywir i leihau ffrithiant. Y dulliau arferol o wthio'r aer tuag i lawr yw un ai adenydd sefydlog, sy'n cadw'r awyren yn yr awyr oherwydd ei bod yn symud ymlaen, neu "adenydd" sy'n troi yn eu hunfan, megis ar hofrennydd.

  • Gleider: Gleider yw awyren drymach na'r awyr sy'n cael ei gefnogi yn hedfan trwy adwaith deinamig o'r awyr yn erbyn ei arwynebau codi, ac sy'n hedfan yn rhydd nid yn dibynnu ar beiriant.
  • Awyren bŵer: Mae un neu fwy o ddulliau ar fwrdd o greu pŵer mecanyddol gydag awyrennau pŵer. Am y rhan fwya’, mae peiriannau awyrennau naill ai'n beiriannau piston neu dyrbinau nwy.
  • Hofrennydd: Peiriant i deithio drwy'r awyr ydy hofrennydd, a gaiff ei yrru gyda chymorth llafnau metel sy'n troi uwch ei ben; ceir llafnau i reoli'r cyfeiriad hefyd - rhai llai - ar gynffon yr hofrennydd.
  • Awtogyro: Mae rotorau heb fotor ar awtogyro i godi'r awyren, gyda pheiriant pŵer ar wahân i wthio'r awyren ymlaen.
  • Eroplen: Awyren drymach nag aer, ag iddi adenydd sefydlog, a yrrir drwy'r awyr gan nerth propelor neu beiriant jet.
  • Drôn: Awyren dan reolaeth o'r ddaear, neu awyren heb beilot.

Damweiniau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Y ddwy ddamwain awyren waethaf yng Nghymru ydyw Tresigin a Chwm Carno. Mae'r tirwedd - mynyddoedd uchel - yn golygu cymylau isel, ac mae hyn wedi achosi llawer o fân ddamweiniau. Ymhlith damweiniau cyfnod yr Ail Ryfel Byd, un o'r gwaethaf oedd honno ger Abermaw, ar 8 Mehgefin 1945 pan syrthiodd B-17 Fortress Americanaidd gan ladd 20 o filwyr. Cafwyd damwain hefyd yn 1953 yn Wrecsam ar 8 Ionawr 1953 pan disgynnodd Boeing Washington (awyren fomio) gan ladd 10 criw o ddeg.

Ledled y byd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dyma restr o'r damweiniau gwaethaf yn ôl y niferoedd a fu farw:

  1. 583 – Maes awyr Teneriffe, (Tenerife, 1977)
  2. 520 – Hedfaniad 123, Japan Airlines, (Japan, 1985)
  3. 349 – Dwy awyren Charkhi Dadri, (India, 1996)
  4. 346 – Hedfaniad 981 Turkish Airlines, (Paris, 1974)
  5. 329 - Hedfaniad 182 Air India, (Cefnfor yr Iwerydd, De Iwerddon, 1985)
  6. 302 – Ilyushin Il-76, (Iran, 2003)
  7. 301 – Hedfaniad 163 Saudia, (Riyadh, 1980)
  8. ~300 –Air Africa Antonov An-32, (Kinshasa, 1996)
  9. 290 – Hedfaniad 655 Iran Air, (Persian Gulf, 1988)
  10. 273 – Hedfaniad 191 American Airlines, (Chicago, 1979)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  awyren. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Awst 2015.
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am awyren
yn Wiciadur.