Hofrennydd

Oddi ar Wicipedia
Hofrennydd 1922
Hofrennydd o RAF Valley, Sir Fôn yn paratoi i lanio.
Llenwi gyda thanwydd cyn mynd allan i'r nos yn Irac

Peiriant i deithio drwy'r awyr ydy hofrennydd, a gaiff ei yrru gyda chymorth llafnau metel sy'n troi uwch ei ben; ceir llafnau i reoli'r cyfeiriad hefyd - rhai llai - ar gynffon yr hofrennydd. Yn wahanol i'r awyren gyffredin, gall godi a glanio'n fertig sy'n ei wneud yn arbennig o ddefnyddiol i'w ddefnyddio mewn llefydd anial, heb lwybr glanio. Gelwir peiriant sydd a 3 neu ragor o lafnau yn 'amrodor'.

Datblygwyd y dechnoleg i'w lunio yn ystod hanner cynta'r 20g. Yr hofrennydd masnachol cyntaf oedd y Focke-Wulf Fw 61 a hynny yn 1936. Bellach, defnyddir yr hofrennydd i wahanol bwrpas gan gynnwys: gan yr heddlu, y fyddin, pleser ac fel ambiwlans awyr. Cânt eu defnyddio hefyd i arbed bywydau a gan ffermwyr i chwistrellu cemegolion ar gnydau neu i gario teithwyr. Maent yn arbennig o ddefnyddiol fel peiriannau lladd, fel y gwelwyd yn Rhyfel Fietnam.

Hofrennydd a bwerir gan ddyn[golygu | golygu cod]

Ar 13 Mehefin, 2013, AeroVelo Atlas oedd yr hofrennydd cyntaf a bwerwyd gan ddyn i godi am dros munud o amser ac a gododd 3.3 metr o'r ddaear, ac felly'n cipio Gwobr Igor I. Sikorsky Human Powered Helicopter Competition.[1] Roedd amodau'r gystadleuaeth hefyd yn mynnu fod yr hofrennydd yn cadw o fewn sgwâr 10 m (32.8 tr) wrth 10 m.[2] Crewyd y sialens ym 1980 gyda gwobr o US$10,000 i gychwyn ond codwyd hyn i $250,000 yn 2009. Wedi i'r wobr godi, roedd dau gystadleuydd benben a'i gilydd: AeroVelo o Ganada a Team Gamera o Maryland.[3]

Prifysgol Maryland yn gosod y safon ac yn torri record.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "AeroVelo Team Wins AHS International's 33-Year-Old Igor I. Sikorsky Human-Powered Helicopter Competition". AHS International. Cyrchwyd 12 July 2013.
  2. "Human Powered Helicopter". AHS International. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2013.
  3. Jason Paur (12 Gorffennaf 2013). "Canadian Team Claims $250,000 Prize for Human-Powered Helicopter". Wired. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2013.
Chwiliwch am hofrennydd
yn Wiciadur.