Hedfan

Oddi ar Wicipedia
Hedfan gweithredol trwy guro adenydd (sïedn cynffonresog)
Awyren yr RAF, 2006

Pan fo gwrthrych megis aderyn neu awyren yn teithio drwy'r aer, uwchlaw'r ddaear fe ddywedir ei fod yn hedfan. Digwydd hyn ar wahanol adegau megis pan fo'r gwrthrych yn ysgafnach na'r aer o'i gwmpas (gweler balŵn aer cynnes) neu pan fo rhywbeth megis roced yn gwthio yn ôl. Pan fo gwrthrych yn symud drwy'r aer heb y gwthio hwn, dywedir ei fod yn 'gleidio'.

Yr ystlum yw'r unig famal sy'n medru hedfan, er bod nifer o famaliaid ac ymlusgiaid yn medru gleidio.

Mathau[golygu | golygu cod]

Balwnau a strwythurau ysgafn[golygu | golygu cod]

Ceir sawl math o ddyfais sy'n hedfan neu'n 'arnofio' ac wedi'i wneud gan ddyn: balŵn ysgafnach nag aer, awyrlong, balŵn aer cynnes a'r blimp.

Ar 21 Tachwedd 1783, ym Mharis, Ffrainc yr hedfanodd y balŵn cyntaf gyda dyn yn ei yrru, sef Jean-François Pilâtre de Rozier a François Laurent d'Arlandes. Roedd y balŵn wedi ei greu gan y brodyr Montgolfier. Lansiodd yr Almaen sawl teulu o awyrlongau gan gynnwys y Sepelinau; yn 1937 ffrwydrodd yr LZ 129 Hindenburg gan ladd 36 o bobl mewn llong awyr Almaenig. Roedd yn 247 metr; hyd tair Boeing 747 a 40 metr o ran diamedr.

Ar wahân i aer cynnes, dros y blynyddoedd defnyddiwyd y nwy hydrogen, ond ers y 1960au, heliwm sy'n cael ei ddefnyddio gan nad yw'n llosgi, ac felly mae'n ddiogelach i'w ddefnyddio.

Hedfan heb yrriant[golygu | golygu cod]

Mae'r gleider yn hedfan drwy'r awyr heb yrriant, nac unrhyw beth yn ei bweru; nid oes angen tanwydd a dibynir ar siâp yr adenydd a cholofnau o aer cynnes i symud y ddyfais drwy'r awyr.

Mae nifer o anifeiliaid yn gleidio, heb yrriant fem symud yr adenydd e.e. eryr yn 'troelli' yn yr awyr am oriau, mewn pocedi o aer cynnes. Ceir math o lyffant sy'n defnyddio ei draed gweog fel adenydd i gleidio, ac wrth gwrs y pysgodyn ehedog (e.e. y Exocoetus) a'r neidr ehedog (y Chrysopelea). Mae'r estrys a'r emiw wedi colli'r sgìl o hedfan.

Hedfan gyda gyriant[golygu | golygu cod]

Mecanyddol[golygu | golygu cod]

Prif: Awyrennu
Diagram yn dangos y grymoedd sydd ar waith ar awyren pan fo'n teithio drwy'r awyr.

Mae hedfan mecanyddol yn ymwneud â hedfan awyrennau sy'n drymach nag aer.[1] Gellir ei ystyried yn agwedd ymarferol ar awyrenneg, sef astudiaeth awyrennau. Mae'r dyfeiaisiadau mecanyddol a grewyd yn drymach nag aer: gleiderau, yr eroplen, yr hofrennydd a rocedi.[2] Mae gan amber falŵn nwy ysgafn hefyd beiriant i'w yrru yn ei flaen.

Rhennir awyrennu'n ddau faes: awyrennu sifil (gan gynnwys awyrennu masnachol ac awyrennu preifat), ac awyrennu milwrol.

Gall rhai awyrennau fynd yn gynt na sain a dywedir fod y math hwn yn uwchsain.

Ceir hedfaniad 'balistig' hefyd, heb yrriant mecanyddol yn sownd ynddo - ond a yrrwyd o beiriant mecanyddol neu arall, heb fawr o godiant (lift) ac sy'n ddibynol ar fomentwm, disgyrchiant, gwrthiant (air drag) a gwthiad (thrust) e.e. pêl-droed, saeth, roced tân gwyllt.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) aviation. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Awst 2015.
  2. World Encyclopedia (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2005), aeronautics.
Chwiliwch am Hedfan
yn Wiciadur.