LLE 129 Hindenburg
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | rigid airship ![]() |
Daeth i ben | 6 Mai 1937 ![]() |
![]() | |
Gwneuthurwr | Luftschiffbau Zeppelin ![]() |
Hyd | 245 metr ![]() |
![]() |

Llong awyr Almaenig oedd yr LZ 129 Hindenburg (Almaeneg: Deutsches Luftschiff Zeppelin #129; Rhif cofrestru: D-LZ 129). Roedd yn 247 metr; hyd tair Boeing 747 a 40 metr o ran diamedr.
Hon oedd prif long awyr y cwmni, y fwyaf i hedfan erioed o ran cyfaint. Hedfanodd o Fawrth 1936 tan iddi fynd ar dân ar 6 Mai 1937 ar ddiwedd ei thaith traws-Iwerydd. Bu farw 36 o bobl yn y ddamwain wrth iddi lanio yn y Lakehurst Naval Air Station yn New Jersey.
Fe'i cynlluniwyd i ddefnyddio tanwydd nwy heliwm gan ei fod yn saffach na heidrogen ond roedd heliwm yn llawer iawn drytach i'w greu yn yr Almaen. Ychydig cyn gorffen ei hadeiladu fe newidiwyd y tanwydd ac aethpwyd am heidrogen.
Llong awyr fasnachol oedd hon a oedd yn cael ei rheoli gan gwmni 'Deutsche Zeppelin Reederei GmBH' (DZR) a sefydlwyd ym Mawrth 1935 gan Hermann Göring er mwyn cynyddu dylanwad y Natsiaid dros y zeppelin.[1]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Ernest Thompson Willows Un o ddyfeiswyr y balwn aer cynnes
- Charles Stewart Rolls Y Cymro a sefydlodd y cwmni Rolls Royce
- Y balwn aer cynnes
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Deutsche Zeppelin-Reederei (DZR)" Airships.net