Ernest Thompson Willows
Ernest Thompson Willows | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1886 Caerdydd |
Bu farw | 23 Awst 1926 Kempston |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hedfanwr |
Roedd Ernest Thompson Willows (11 Gorffennaf 1886 - 23 Awst 1926) yn flaenllaw iawn yn y byd balwnau awyr yng ngwledydd Prydain a'r cyntaf i ddal trwydded peilot llong awyr.
Cafodd ei eni yng Nghaerdydd, a'i addysgu yng Ngholeg Clifton. Gadawodd yn bymtheg oed i gychwyn ei hyfforddiant fel deintydd.
Adeiladodd ei longawyr cyntaf, sef 'Willows No. 1' yn 1905 pan oedd yn 19eg oed. Hedfanodd am 85 munud o 'East Moors', Caerdydd a hynny ar y 5ed o Awst, 1905. Dilynwyd y daith hon gyda thaith pellach yn ei 'Willows No. 2' gan lanio y tu allan i Neuadd y Dref, Caerdydd ar 4 Mehefin 1910 a thaith pellach i 'Crystal Palace' Llundain yn Awst. Atgyfnerthodd y llongawyr hon gan ei hailenwi yn Rhif 3 ac yn 'Dinas Caerdydd' gan hedfan ynddi o Lundain i Ffrainc.
Ei daith i Ffrainc
[golygu | golygu cod]Ar y daith hon collodd ei fap dros yr ochr yn ystod y nos a chafodd broblemau gyda'r balwn ei hun a olygodd y bu'n rhaid iddo lanio yn Corbehem ger Douai am ddau o'r gloch y bore. Gyda chymorth trigolion lleol y pentref, trwsiodd y canfas ac aeth yn ei flaen gan lanio ym Mharis ar 28 Rhagfyr 1910. Dathlodd y dydd Calan gyda thaith o amgylch y Tŵr Eiffel.
Ffatri
[golygu | golygu cod]Symudodd i Birmingham ac aeth ati i adeiladu Rhif 4. Gwerthodd hon i'r llynges am £1,050 ac ailenwyd hi'n 'His Majesty's Naval Airship No. 2'. Cychwynodd ysgol falwnau gyda'r arian yn 'Welsh Harp', Hendon, ger Llundain ac aeth ati ar yr un pryd i adeiladu 'Willows No. 5' yn 1913; roedd pedair sedd ynddi ac fe'i chynlluniwyd fel llongawyr pleser i fynd a phobl ar deithiau uwch ben Llundain.
Diwedd y daith
[golygu | golygu cod]Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf adeiladodd falwnau 'barrage' yn Westgate Street ac yn Llanisien yng Nghaerdydd. Ar 23 Awst 1926 bu farw mewn damwain falwn yn Hoo Park, Kempston, Bedford ynghyd â dau deithiwr arall yn ddim ond deugain oed.
Fe'i claddwyd ym Mynwent cathays a galwyd ysgol, tafarn a stryd ar ei ôl yng Nghaerdydd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan 'Stories in Welsh Stone'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-15. Cyrchwyd 2010-04-07.
- Cyfeiriadau Cyffredinol