Tân gwyllt
Jump to navigation
Jump to search
Tân gwyllt yn Dortmund, yr Almaen.
Math o ddyfeisiadau ffrwydrol a ddefnyddir fel rhan o ddathliadau ydy tân gwyllt. Gan amlaf, gwelir tân gwyllt fel rhan o arddangosfa gyhoeddus e.e. Agoriad yr Olympics. Mae gan dân gwyllt bedwar prif effaith: sŵn, golau, mwg a deunyddiau sy'n arnofio, (fel conffeti. Gellir eu creu i losgi gyda fflamau a gwreichion lliwgar, sydd fel arfer yn goch, oren, melyn, gwyrdd, glas, porffor ac arian. Ceir arddangosfeydd ledled y byd ac maent yn ganolbwynt i nifer o ddathliadau crefyddol a diwylliannol.
Gelwir y tân gwyllt mwyaf llachar yn Mag Stars a'u tanwydd yw aliminiwm. Mae ambell danwydd yn wenwynig.
| Lliw | Metal | Cyfansoddion cemegol (esiamplau) |
|---|---|---|
| Coch | Strontiwm (coch cryf)
Lithium (coch canolig) |
SrCO3 (strontiwm carbonad)
Li2CO3 (lithiwm carbonad) LiCl (lithiwm clorid) |
| Oren | Calcium | CaCl2 (calsiwm clorid) |
| Melyn | Sodiwm | NaNO3 (sodium nitrad) |
| Gwyrdd | Bariwm | BaCl2 (bariwm clorid) |
| Glas | Copr | CuCl2 (copper chloride), ar dymheredd isel |
| Indigo | Cesiwm | CsNO3 (cesiwm nitrad) |
| Fioled | Potasiwm
Rwbidiwm (fioled-coch) |
KNO3 (potasiwm nitrad)
RbNO3 (rubidiwm nitrad) |
| Aur | Siarcol, haearn neu lampblack | |
| Gwyn | Titaniwm, aliwminim, beryliwm neu bowdr magnesiwm | |
Gŵyl draddodiadol gyda chanu a thân gwyllt; ffilmiwyd yn 2008. | |
| Trafferth chwarae'r ffeil hon? Gweler yr Adran Gymorth. | |