Eroplen

Oddi ar Wicipedia
Awyren deithwyr jet Boeing 737-700 a berchenogir gan y cwmni hedfan Air Berlin.

Awyren drymach nag aer, ag iddi adenydd sefydlog, a yrrir drwy'r awyr gan nerth propelor neu beiriant jet yw eroplen,[1][2] awyrblan[2][3] neu awyrblen,[3] neu ar lafar plên.[4] Yn aml yn Gymraeg fe glywir "awyren" yn yr ystyr benodol o eroplen, ond gall y gair hwnnw gyfeirio at beiriannau a cherbydau hedfan eraill hefyd.[5] Defnyddir eroplenau er hamdden, i gludo nwyddau a phobl, gan y lluoedd arfog, ac at ddiben ymchwil gwyddonol a thechnolegol yn y meysydd awyrennu, awyrenneg ac awyrofod. Diwydiant enfawr yw awyrennu masnachol sy'n cludo miloedd o deithwyr pob diwrnod ar eroplenau. Peilot sy'n hedfan eroplen gan amlaf, ond rheolir dronau gan gyfrifiadur neu o bell.

Cydrannau hanfodol yr eroplen yw'r adenydd i'w chadw yn yr awyr tra'n hedfan (drwy adwaith aerodynamig yr aer yn eu herbyn), esgyll y gynffon i sefydlogi'r adenydd, wynebau symudol i reoli osgo'r eroplen tra'n hedfan, a ffynhonnell pŵer i ddarparu'r gwthiant sy'n rhaid i yrru'r cerbyd drwy'r awyr. Mae gan y mwyafrif o eroplenau gorff amgaeedig ar gyfer y criw, y teithwyr a'r cargo, gan gynnwys y caban peilot sy'n cynnwys yr offer llywio a hedfan. Gwneir darpariaeth i gynnal yr eroplen ar y ddaear ac wrth esgyn a glanio er enghraifft offer glanio mewn isffram y corff.[6]

Arloesodd Syr George Cayley syniad yr eroplen fodern ym 1799, ac yn hwyrach adeiladodd a llwyddodd i hedfan gleiderau. Roedd yr Almaenwr Otto Lilienthal hefyd yn bwysig wrth ddatblygu awyrennau trymach nag aer yn ystod y 19g. Dyfeisiodd y brodyr Wright yr eroplen gyntaf ym 1903. Dyfeisiwyd yr awyren jet gyntaf, yr Heinkel He 178 ym 1939, a chyflwynwyd yr awyren deithwyr jet gyntaf, y de Havilland Comet ym 1952.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  eroplen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Awst 2015.
  2. 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [aeroplane].
  3. 3.0 3.1  awyrblen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Awst 2015.
  4.  plên. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Awst 2015.
  5.  awyren. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 24 Awst 2015.
  6. (Saesneg) airplane. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Awst 2015.