Rhodri ap Dyfrig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rhodri ap Dyfrig
Rhodri ap Dyfrig (Nwdls, S4C) yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 - at the National Eisteddfod, Cardiff 01.jpg
Ganwyd 28 Mehefin 1977 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Addysg Doethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth ymgynghorydd TG, blogiwr Edit this on Wikidata

Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C, blogiwr, ac arbenigwr yn y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg yw Rhodri ap Dyfrig (ganwyd 28 Mehefin 1977) a adnabyddir hefyd fel Nwdls. Mae'n un o sefydlwyr y grwp technoleg gwybodaeth Cymraeg Hacio'r Iaith, a sefydlodd ar y cyd gyda Carl Morris a Rhys Wynne ar 30 Ionawr 2010.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Rhodri yn Nolgellau yn fab i Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd ers 2017 a'i wraig Rhian Owen (1952-1994). Mae'n frawd i'r gohebydd ac awdur Elliw Gwawr. Safodd ei daid tadol J L Jenkins fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Meirionnydd yn etholiad 1966.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi graddio mewn iaith a chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd (1995 – 1998) gweithiodd am gyfnod i Sgrin Cymru Wales (2002 - 2005) ac fel ymchwilydd gyda Mercator Media (Awst 2005 - Mai 2008). Cwbwlhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2014 gyda thraethawd ar Gydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol: Asesu dulliau cyfranogol a thorfol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Rhwng Chwefror 2014 a Thachwedd 2015 bu'n Gymrawd Technolegau Creadigol yn Aberystwyth; dyma'r cyfnod pan sefydlodd Nwdls Cyf, a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2015.

Yn Rhagfyr 2015 fe'i penodwyd yn Gynhyrchydd Arlein (Cyfryngau Cymdeithasol) BBC Cymru, gan weithio o Gaerdydd, a gadawodd yn Awst 2016 pan benodwyd ef yn Gomisiynydd Cynnwys Arlein S4C.

Thesis ei ddoethuriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cwbwlhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2014 gyda thraethawd ar: Cydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol: Asesu dulliau cyfranogol a thorfol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Noda'r cyflwyniad i'r papur:[1]

Prif amcan y traethawd hwn yw asesu'r defnydd o ddulliau cyfranogol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Ymysg yr astudiaethau achos mae prosiect ymchwil hanes torfol o ddefnydd y Gymraeg ar y we rhwng 1989-2012. Drwy asesu'r hanes a'r dull torfol rhoddir trosolwg newydd ar weithgaredd y gymuned Gymraeg ar y we. Prif gyfraniad y traethawd yw'r cyfraniad at gofnodi hanes y we Gymraeg a'r ymchwil empirig gwreiddiol o ddulliau cynhyrchu cyfryngau cyfranogol yn y Gymraeg a thair iaith leiafrifol arall, gan nodi'r cymhlethdodau ymarferol, ieithyddol a gwleidyddol sy'n codi o ddefnyddio'r dulliau hyn. Hawlir nad yw damcaniaethau eingl-ganolog yn esbonio'n ddigonol effeithiau a phrosesau diwylliannol cyfranogiad a thorfoli mewn cymdeithasau amlieithog a bod angen gwell ystyriaeth o ddiwylliannau o gyfranogiad, cyfyngiadau mewn cyfalaf cyfranogol a chymhelliadau eraill megis atgyfnerthu hunaniaeth ieithyddol.

Arloesi[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i rhestrir gan Brifysgol Aberystwyth ymhlith y 50 person mwyaf dylanwadol o fewn Addysg Uwch sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru.[2] Cofnododd hanes y genre gwyddonias mewn erthygl o'r enw 'Cymroddyfodoliaeth' ar wefan 'Medium' yn Nhachwedd 2014.[3] sy'n defnyddia’r hashnod #cymroddyfodol ar Twitter i roi sylw i'r genre yma yn y Gymraeg. Mae hefyd yn un o sefydlwyr y grwp technoleg gwybodaeth Cymraeg Hacio'r Iaith, a sefydlodd ar y cyd gyda Carl Morris a Rhys Wynne ar 30 Ionawr 2010. Mae ei linell-amser Hanes y We Gymraeg, a gyhoeddwyd yn 2014, yn cofnodi rhai o'r cerrig milltir pwysig yn hanes y we.[4]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Prifysgol Aberystwyth; adalwyd 12 Awst 2018.
  2. Gwefan Prifysgol Aberystwyth; teitl: 'Dylanwad Dr Rhodri ap Dyfrig'; adalwyd 11 Awst 2018.
  3. medium.com; gwefan medium.com;] adalwyd 11 Awst 2018.
  4. Llyfr; teitl: The Routledge Companion to Global Internet Histories; Google Books; gol: Gerard Goggin, Mark McLelland. adalwyd 11 Awst 2018.