Pennar Davies
Gwedd
| Pennar Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | William Thomas Davies 12 Tachwedd 1911 Aberpennar |
| Bu farw | 29 Rhagfyr 1996 Abertawe |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, diwinydd, ysgrifennwr |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Bardd, awdur a diwinydd o Gymru oedd William Thomas Pennar Davies (12 Tachwedd 1911 - 29 Rhagfyr 1996) BA BLitt PhD. Cafodd ei eni yn Aberpennar, Cwm Cynon (Rhondda Cynon Taf).[1]
Roedd yn aelod o Blaid Cymru ac fe sefodd dros y blaid honno ar gyfer sedd seneddol San Steffan yn Llanelli yn etholiadau 1964 a 1966. Ymgyrchodd dros gael sianel deledu Gymraeg.
Tad y bardd Meirion Pennar oedd ef.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- Cinio'r Cythraul (1946)
- Naw Wfft (1957)
- Yr Efrydd o Lyn Cynon (1961)
- Y Tlws yn y Lotws (1971)
- Llef (Cyhoeddiadau Barddas, 1987)
Nofelau
[golygu | golygu cod]- Anadl o'r Uchelder (1958)
- Meibion Darogan (1968)
- Mabinogi Mwys (1979)
- Gwas y Gwaredwr (Tŷ John Penri, 1991)
Storïau
[golygu | golygu cod]- Caregl Nwyf (1966)
Arall
[golygu | golygu cod]- Rhwng Chwedl a Chredo (1966)
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Huw Ethall, Pennar Davies: Y Dyn a'i Waith (Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1998)
- D. Densil Morgan, Pennar Davies, Dawn Dweud (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Huw Ethall, Pennar Davies: Y Dyn a'i Waith (Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1998)