Y Tafod
![]() | |
Sefydlwyd | Hydref 1963 gan Owain Owain |
---|---|
Gwefan swyddogol | cymdeithas.cymru |
Y Tafod yw cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'n cael ei gyhoeddi tua phedair gwaith y flwyddyn, i gyd-daro gyda digwyddiadau pwysig megis Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod yr Urdd, a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Yr enw gwreiddiol oedd 'Tafod y Ddraig' a olygwyd yn gyntaf yn Hydref 1963 gan Owain Owain, Bangor. Ef hefyd a luniodd logo'r gymdeithas i gyd-fynd a'i bapur. Mae'r fersiwn cyntaf i'w weld islaw a'r gwreiddiol yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Trafododd Gwilym Tudur y dyddiau cynnar yn ei gyfrol Wyt Ti'n Cofio...?:
“ | Ei gymwynas fwyaf fu sefydlu Tafod y Ddraig, y ceir ei hanes rhyfeddol ganddo yn Tân a Daniwyd. Fe dyfodd mewn chwe mis o ddalen ddyblygedig 400 copi i gylchgrawn gloyw â chylchrediad o 2,500, gyda stamp newydd, miniog ar ei holl gynnwys. | ” |
Roedd gan wasg y Lolfa gysylltiad agos ond anffurfiol â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a bu'n gyfrifol am argraffu ei chylchgrawn misol, Tafod y Ddraig am gyfnod hir. Ymhlith y golygyddion eraill y mae Gareth Miles ac Angharad Tomos.