Gwilym Tudur
Gwilym Tudur | |
---|---|
Ganwyd | 13 Chwefror 1941 |
Bu farw | 18 Chwefror 2024 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, person busnes, ymgyrchydd |
Gŵr busnes, ymgyrchydd ac awdur o Gymru oedd Gwilym Tudur (13 Chwefror 1941 – 18 Chwefror 2024).[1] Sefydlodd y siop Gymraeg modern cyntaf: Siop y Pethe, Aberystwyth ym 1968 gyda'i wraig Megan. Penderfynodd y cwpl werthu'r siop yn 2013 ac ymddeol.
Fe'i magwyd ar fferm yn Chwilog ac aeth i astudio ym Prifysgol Aberystwyth. Mae'n frawd i'r gyfansoddwraig Cerdd Dant Nan Jones ac yn enedigol o Fryn Dewin, Chwilog, Eifionydd, Gwynedd. Roedd ei dad Robert William Jones yn fardd bro medrus ac awdur Cerddi Eifionydd (Gwasg Gomer 1972).
Yn ystod ei gyfnod yn y brifysgol, sefydlodd Gwasg y Glêr - gan fynd ati i gyhoeddi dramâu Wil Sam a'r addasiadau cyntaf erioed o waith Tennesse Williams yn y Gymraeg.[2]
Ysgrifennodd sawl llyfr ac roedd wedi sgriptio cyfresi teledu hefyd yn cynnwys gyfres deledu i bobl ifanc Marinogion. Bu'n addasu nifer o lyfrau plant yn yr 1980au gan gynnwys Sion Corn a Mae Llygoden Hŷ yn y Tŷ, yn ogystal â chyhoeddi cyfrol o ysgrifau, Byclings! yn 1981, a'r astudiaeth o iaith lafar bro Eifionydd - 'Amen, Dyn Pren' - yn 2004.
Ysgrifennodd y gyfrol Wyt ti'n cofio?, llyfr sy'n cyflwyno hanes Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros y 24 mlynedd gyntaf. Bu'n wleidydd ymarferol ers degawdau.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod a Megan a roeddent y byw yn Lledrod, Ceredigion am flynyddoedd cyn symud i Gaernarfon yn 2019.[2] Roedd ganddynt dau o blant, Gwern a Non.
Cafodd Gwilym a Megan Tudur eu derbyn i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2014.[3] Yn 2014 arweiniodd ef a Megan Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth fel 'Tywysydd'. Mae rôl y Tywysydd yn anrhydedd a roddir gan bwyllgor y Parêd i berson neu bersonau lleol i'r dref sydd wedi gwneud cyfraniad nodweddiadol i'r iaith Gymraeg a'r gymuned lleol.
Bu farw yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn 83 mlwydd oed. Cynhaliwyd angladd breifat yn yr amlosgfa yn Aberystwyth. Cafwyd cyfarfod cyhoeddus i ddathlu ei fywyd yng Nghapel Rhydlwyd, Lledrod am 2.30pm ddydd Gwener, 15 Mawrth 2024.[4]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Byclings (1981)
- Siôn Corn yn Mynd ar ei Wyliau (1992)
- Amen, Dyn Pren (2004)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "'Arwr tawel': Teyrngedau i Gwilym Tudur, yr awdur, ymgyrchydd a chyd-sylfaenydd 'Siop y Pethe'". newyddion.s4c.cymru. 2024-02-20. Cyrchwyd 2024-02-20.
- ↑ 2.0 2.1 "Ymgyrchydd a sylfaenydd Siop y Pethe, Gwilym Tudur wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2024-02-20. Cyrchwyd 2024-02-20.
- ↑ Cyn-gapten rygbi Cymru i’r Orsedd. Golwg360 (8 Awst 2014). Adalwyd ar 10 Tachwedd 2014.
- ↑ "Click here to view the tribute page for Gwilym TUDUR". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-14.