Siop y Pethe

Oddi ar Wicipedia
Delweddau allanol
Siop y Pethe o'r stryd
Siop y Pethe yn yr eira
Y tu mewn i Siop y Pethe

Siop lyfrau Cymraeg yn Aberystwyth yw Siop y Pethe. Mae'n gwerthu nwyddau Cymraeg a Chymreig gan gynnwys llyfrau, cardiau cyfarch, a CDau.

Agorwyd gan Gwilym a Megan Tudur ar gornel Sgwâr Glyn Dŵr yn Aberystwyth ym mis Rhagfyr 1968.[1] Ystyr "y Pethe" yw'r cyfuniad o werthoedd a diddordebau sy'n ymgorffori diwylliant traddodiadol Cymru,[2] ac yn ôl Gwilym roedd yr ymadrodd hwn yn "enw’r cyfnod ar bopeth Cymraeg o bwys" yn ystod y frwydr dros yr iaith yn y 1960au.[3] Agorodd nifer o siopau Cymraeg tebyg ar draws Cymru, ac yn ôl Gwilym Siop y Pethe oedd y siop Gymraeg fodern gyntaf gan iddi werthu recordiau, cardiau a phosteri yn ogystal â llyfrau. Roedd Siop y Pethe hefyd yn lleoliad swyddfa gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar ddechrau'r 1970au.[1]

Penderfynodd Gwilym a Megan gwerthu'r busnes yn 2013 ar ôl 45 mlynedd wrth y llyw, gan roi'r siop ar werth am £445,000. Mae Gwilym Tudur yn awdur ac ei fwriad yw i ail-gydio yn ei yrfa ysgrifennu pan fydd y siop yn cael ei gwerthu.[1] Bellach mae'r siop ar werth am £275,000.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Siop y Pethe yn Aberystwyth: Diwedd 'oes y Tuduriaid'. BBC (4 Ebrill 2013). Adalwyd ar 10 Tachwedd 2014.
  2.  peth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2014. Yn dyfynnu Meic Stephens, Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (1986).
  3.  Chwilio am brynwr i siop lyfrau eiconig. Golwg360 (4 Ebrill 2013). Adalwyd ar 10 Tachwedd 2014.
  4.  Siop y Pethe ar werth. rightmove. Adalwyd ar 10 Tachwedd 2014.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]