Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014
Cynhelwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014 ar faes arfordirol Llanelli rhwng 1 a 9 Awst 2014. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi ar 29 Mehefin 2013 gyda dros fil o bobl yn gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin.[1] Cyfanswm nifer yr ymwelwyr oedd 143,502.[2]
Cafwyd sawl cyngerdd gan gynnwys: Gala Agoriadol gyda chaneuon o sioeau cerdd poblogaidd gan gynnwys Grav, Nia Ben Aur, Pum Diwrnod o Ryddid ac Er Mwyn Yfory. Ar y nos Sadwrn cyntaf, cynhaliwyd cyngerdd gyda: Wynne Evans, John Owen-Jones, Shan Cothi, a Kizzy Crawford. Ymhlith y perfformwyr eraill roedd: Nigel Owens, Tri Tenor Cymru, Huw Chiswell, Gillian Elisa, Gwenda a Geinor a Chôr y Wiber. Noson glasurol oedd ar y nos Iau, sef Messe Solennelle, Gounod a Requiem, Faure gyda Fflur Wyn, Trystan Llŷr Griffiths, Gwion Tomos, a Cherddorfa Siambr Cymru, dan arweiniad Grant Llewellyn.
O fewn tafliad carreg i'r maes y sefydlwyd y Maes Carafanau a'r Gwersylla Teuluol - ar dir Castell y Strade.
Prif gystadlaethau
[golygu | golygu cod]| Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
|---|---|---|---|
| Y Gadair | Lloches | "Cadwgan" | Ceri Wyn Jones |
| Y Goron | Tyfu | "Golygfa 10" | Guto Dafydd |
| Y Fedal Ryddiaith | Saith Oes Efa | "Honna" | Lleucu Roberts |
| Gwobr Goffa Daniel Owen | Rhwng Edafedd | "Botwm Crys" | Lleucu Roberts |
| Tlws y Cerddor | Chwalfa | "2.4.7" | Sioned Eleri Roberts[3] |
| Y Fedal Ddrama | La Primera Cena | Dewi Wyn Williams |
Y Gadair
[golygu | golygu cod]Robert Hopkins, crefftwr lleol, oedd gwneuthurwr y Gadair a'r enillydd oedd Ceri Wyn Jones. Dau o'r tri beirniaid yn unig a fynegodd fod ei gerdd yn deilwng o'r Gadair; anghytunodd Alan Llwyd gan fynegi: "Mae Cadwgan yn gynganeddwr hynod o fedrus, mae'n amlwg, ond methodd gyda'r awdl hon, yn fy marn i".[4] Ar y llaw arall, barn Idris Reynolds oedd, "Fe'm cyffyrddwyd gan awdl "Cadwgan". Mae'n fardd disglair ac yn llwyr deilyngu Cadair Eisteddfod Sir Gâr eleni."
Y Goron
[golygu | golygu cod]Crëwyd y Goron gan Angharad Pearce Jones a chafodd ei rhoi'n wobr am ddilyniant o ddeg o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell, dan y teitl ‘Tyfu’. Guto Dafydd oedd enillydd y Goron. Yn ôl Dylan Iorwerth, un o'r beirniaid, "Maen nhw'n gerddi sy'n cyffroi wrth eu darllen ac wrth weithio yn y meddwl".[5] ‘Lloches’ oedd teitl y Gadair ac fe'i rhoddwyd am awdl ar fwy nag un o’r mesurau caeth heb fod dros 250 llinell. Yr Athro Prifysgol, Damian Walford Davies o Brifysgol Aberystwyth oedd yn ail.[6]
Y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen
[golygu | golygu cod]Enillydd y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Lleucu Roberts sy'n wreiddiol o Bow Street, Ceredigion ond sy'n byw ers tua 1992 yn Rhostryfan ger Caernarfon. Rhoddwyd Gwobr Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi a mynegodd Bethan Mair, un o'r tri beirniaid, "Fe'm rhwydwyd gan y nofel gymesur, hardd a theimladwy, "Rhwng Edafedd""... Saith stori fer a enillodd iddi'r Fedal Ryddiaith, yn olrhain oes merch, drwy wahanol gyfnodau saith o ferched mewn gwahanol rannau o Gymru. "Dyma lenor penigamp", medd Catrin Beard, "sydd wedi saernïo pob stori'n grefftus a chaboledig."
Y Fedal Ddrama
[golygu | golygu cod]Dewi Wyn Williams oedd enillydd y Fedal Ddrama am ei ddrama, La Primera Cena, gan ddefnyddio'r ffugenw 'Non Bobo Marina'. Y beirniaid oedd Sara Lloyd a Roger Williams ac yn y feirniadaeth dywedwyd mai "Dramodydd hyderus sydd wrth waith fan hyn, yn adrodd stori dyn yn cyfarfod â'i dad am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.... Mae'n strwythuro'r ddeialog gyda chrefft a dychymyg ac yn llwyddo i fachu'r gynulleidfa."
Roedd y Fedal, er cof am Urien Wiliam, wedi'i rhoi gan ei briod Eiryth a'r plant, Hywel, Sioned a Steffan ac roedd gwobr ariannol o £750, o Gronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli. Roedd cyfle hefyd i'r enillydd ddatblygu'r gwaith gyda Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.[7]
Tlws y Cerddor
[golygu | golygu cod]Enillydd Tlws y Cerddor oedd Sioned Eleri Roberts o Fangor sydd wedi gweithio'n aml gydag Ensemble Cymru ac sy'n arbenigo ar y clarinét. Mae hi hefyd yn diwtor ym Mhrifysgol Bangor a dyma oedd y tro cyntaf iddi gystadlu mewn cystadleuaeth gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[8]
Gwaith buddugol coll Cyfansoddiadau a Beirniadaethau
[golygu | golygu cod]Ni ymddangosodd gwaith buddugol y gystadleuaeth Monolog yng Nghyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod. “Nid yw’r Eisteddfod yn ystyried bod y deunydd arobryn yn addas, am wahanol resymau, i’w gyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.” oedd sylw'r Eisteddfod am waith Rhodri Trefor.[9]
Anrhydeddau'r Orsedd
[golygu | golygu cod]Cafodd y canlynol eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ar fore dydd Gwener, 8 Awst.
Gwisg Las
[golygu | golygu cod]- Charles Arch, Pontrhydfendigaid – Ef oedd Prif sylwebydd Sioe Amaethyddol Cymru am 30 mlynedd, ac mae hefyd wedi gweithio fel trefnydd mudiad y Ffermwyr Ifanc ym Maldwyn. Mae wedi ysgrifennu dwy gyfrol, Byw dan y Bwa ac O'r Tir i'r Tŵr.
- Hywel Wyn Bowen – perchennog Siop y Cennen yn Rhydaman, yn athro mewn ysgolion Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr a'r Betws. Roedd hefyd yn un o gyd-sylfaenwyr Clwb Gwerin y Cnape.
- Duncan Brown, Waunfawr, ger Caernarfon – Mae'n adnabyddus am ei wybodaeth eang o fyd natur a'i arloesedd yn y maes hwnnw.
- Arfon Haines Davies, Caerdydd – Gwyneb adnabyddus gan iddo weithio fel cyflwynydd ar HTV ac S4C yn ystod gyrfa hir. Mae hefyd wedi gweithio gyda sawl elusen.
- Aled Siôn Davies – Athletwr llwyddiannus, ac fe lwyddodd i ennill y Fedal Aur yng nghamp y ddisgen yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain yn 2012.
- Elwen Mair Evans, o Ddyffryn Clwyd yn wreiddiol – Mae hi'n adnabyddus fel bargyfreithiwr sydd wedi gweithio ar sawl achos amlwg.
- Harold Evans – Mae'n cael ei anrhydeddu am ei waith diflino dros yr iaith dros y blynyddoedd. Bu'n gweithio fel colofnydd a gohebydd i'r Western Mail ac mae wedi cyhoeddi llyfr am yr aelodau o Goleg Llanymddyfri a fu farw yn y Rhyfel Mawr.
- Trevor Adrian Evans, Caerfyrddin – Ef yw Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn 2014. Ei swydd dydd-i-dydd yw pennaeth busnes a gweithgareddau Theatr Genedlaethol Cymru ac mae'n cymryd rhan mewn nifer o gymdeithasau'n lleol.
- Anita Humphreys, Brynaman Isaf – Mae'n cael ei anrhydeddu am ei gwaith yn cefnogi diwylliant Cymraeg yn ei hardal dros y blynyddoedd. Bu'n aelod o sawl côr ac mae hi wedi gweithio i'r papur bro, Bro Tawe yn ogystal ag Aelwyd Amanw a Chymdeithas Capeli Brynaman.
- Esme Jones, Crug-y-bar, Sir Gâr – Mae wedi cyfrannu at weithgareddau pobl ifanc yn ei hardal, fel gwirfoddolwr ac fel athrawes.
- Margaret Tudor Jones – yn wreiddiol o Ddolgelynnen, Machynlleth ond mae hi'n byw yn Llundain ers blynyddoedd, lle mae hi'n weithgar o fewn y gymuned Gymraeg. Mae hi hefyd yn un o ymddiriedolwyr Gŵyl Machynlleth yn y Tabernacl a goruchwyliodd ddatblygiad yr Oriel Gelf yn y Canolbarth.
- Stephen Jones – Cynrychiolodd Cymru 104 o weithiau yn ystod ei yrfa rygbi lwyddiannus. Mae'n cael ei urddo am ei gefnogaeth i'r iaith yn ogystal â'r hyn a gyflawnodd ar y caeau rygbi.
- Tegwen Morris, Aberystwyth – Cyfarwyddwr Merched y Wawr. Yn ogystal â'i gwaith gyda'r sefydliad, mae'n gweithio'n galed dros yr iaith yn y gymuned.
- Beryl Richards, Llanddarog – Mae wedi gwneud llawer dros y Gymraeg yn ei hardal. Mae hi wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau Côr Llanddarog a'r Cylch, Sioe Amaethyddol Cymru, y Clwb Ffermwyr Ifanc a Neuadd Gymunedol Llanddarog.
- Arwel Roberts, Rhuddlan – Mae wedi gwneud llawer tros yr iaith yn ei ardal ac mae'n un sy'n trefnu taith flynyddol i'r Ŵyl Pan Geltaidd yn Iwerddon.
- Ithel Parri-Roberts – Mae'n adnabyddus am ei waith fel postfeistr Swyddfa Bost Hendygwyn-ar-Daf, swydd y gwnaeth am 50 mlynedd. Mae hefyd yn weithgar o fewn nifer o gymdeithasau lleol yn ei ardal.
- Eirios Thomas – Mae wedi bod yn drefnydd sirol i Glybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr ers 36 o flynyddoedd, gan roi cyfloedd i bobl ifanc feithrin sgiliau ar gyfer y dyfodol.
- Geoffrey Thomas – o Faesteg yn wreiddiol yn bellach yn byw yn Rhydychen, yw cadeirydd Cyngor Prifysgol y Drindod Dewi Sant. Mae hefyd yn wyddonydd uchel ei barch sydd wedi cyfrannu erthyglau at gylchgrawn Y Gwyddonydd.
- Haf Thomas, Llanrug – Mae wedi casglu £45,000 i achosion da amrywiol ar hyd y blynyddoedd. Mae hi'n gweithio i Gyngor Gwynedd.
- Lily May Thomas, Pen-y-bont, Caerfyrddin – Yn ôl yr Eistedfod "yn byw ei bywyd yn ôl arwyddair Yr Urdd, yn ffyddlon i Gymru, i'w chyd-ddyn a Christ". Mae hi wedi bod yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul ac Eisteddfod yr Urdd dros y blynyddoedd.
- Anna Williams, Clunderwen, Sir Benfro – Ysgrifennydd Cymdeithas Waldo ers 2010. Mae hi hefyd wedi bod yn gefnogol i addysg Gymraeg yn ei hardal fel llywodraethwr yn Ysgol y Fenni. Mae hi hefyd yn trefnu cystadleuaeth Canwr y Byd.
- Merfyn Williams – Mae ei gyfraniad i Gymdeithas Gymraeg Penbedw yn "enfawr" yn ôl yr Eisteddfod. Mae hefyd wedi bod yn stiwardio'n ffyddlon yn yr Eisteddfod ers 33 o flynyddoedd.
- Rhian Huws Williams – Prif weithredwr Cyngor Gofal Cymru, ac mae hi'n gweithio'n galed i geisio sicrhau statws i'r Gymraeg ym maes iechyd. Mae hi hefyd yn aelod o gorau Cerdd Dant a Chanu Gwerin.
Gwisg Werdd
[golygu | golygu cod]- Yr Athro Helmut Birkan – Fe ddysgod Cymraeg tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth cyn mynd ymlaen i sefydlu'r adran Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Fienna, gan hybu'r iaith Gymraeg yn Awstria a'r Almaen hyd y blynyddoedd.
- Marian Evans, Nantlle – Mae wedi gweithio fel prifathrawes mewn sawl ysgol yn ogystal â fel ymgynghorydd ysgolion cynradd. Eisoes yn aelod o Gôr Cerdd Dant Lisa Erfyl a Chôr Pensiynwyr Y Mochyn Du, fe sefydlodd Gôr Plant Caerdydd ddwy flynedd yn ôl
- Philippa Gibson – Enillodd gystadleuaeth yr englyn y Brifwyl yn ogystal â nifer o gadeiriau eisteddfodol eraill, wedi iddi ddysgu Cymraeg ar ôl symud i orllewin Cymru. Mae hi'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Tan-y-Groes ac yn cynnal dosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn ardal Aberteifi.
- Roy Griffiths, Cwm Nant y Meichiaid – Bydd ei enw wastad yn cael ei gysylltu â Plethyn, y band gwerin a sefydlodd gyda'i chwaer Linda Griffiths a'i gymydog John Gittins. Mae'r albwm Seidr Ddoe yn cael ei hystyried i fod yn un o glasurol y Gymraeg.
- Falyri Jenkins, Talybont, Ceredigion – Cantores sydd wedi "ysbrydoli cenedlaethau o blant i fwynhau cerddoriaeth", yn ôl yr Eisteddfod. Mae hi hefyd yn cymryd rhan mewn cwmnïau drama Rhydypennau ac Arad Goch.
- Tegwyn Jones, Pontrobert, Sir Drefaldwyn – Bu'n arwain corau, yn aelod o Gyngor Sir Powys ac yn gadeirydd ar Bwyllgor Cerdd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.
- D. Geraint Lewis, yn wreiddiol o Ynysybwl – Ef yw'r ymennydd tu ôl i'r Geiriadur Cymraeg Gomer - cyfrol y mae mawr ddisgwyl am ei gyhoeddi. Mae eisoes wedi cyhoeddi nifer o lyfrau am ganeuon gwerin a charolau, enwau, blodeugerddi a llawer mwy.
- Jennifer Maloney, Llandybie, Sir Gaerfyrddin – Caiff ei hanrhydeddu am ei gwaith gwirfoddol yn cynnal diwylliant eisteddfodol Sir Gâr. Mae hi wedi bod yn rhedeg Aelwyd Penrhyd ers ei sefydlu yn 1976.
- Helen Prosser, Tonyrefail – Hi yw cyfarwyddwr Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg ac mae'n cael ei hanrhydeddu am frwydro dros hawliau'r Gymraeg ac am dwyn perswâd ar gymaint o bobl i ddysgu'r iaith.
- Gwilym Tudur – o Chwilog yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw yn Lledrod yng Ngheredigion wnaeth sefydlu Siop y Pethe yn Aberystwyth.
- Megan Tudur – Mae wedi bod yn olygydd i gylchgronau'r Urdd ac fe sefydlodd Siop y Pethe yn Aberystwyth gyda'i gwr, Gwilym.
- Megan Williams, Trefor – Cafodd y fraint o gael ei henwi'n Wniadwraig y Flwyddyn y cylchgrawn Vogue nol yn 1990. Hi wnaeth greu a gwnïo gwisg newydd yr Archdderwydd yn 2008 a gwisgoedd y morynion ar gyfer seremonïau'r Orsedd yn Eisteddfod Sir Gâr eleni.
Maes B
[golygu | golygu cod]Ymhlith yr artistiaid a ymddangosodd ym Maes B roedd: Y Bandana, Yr Ods, Sen Segur, Colorama, Gwenno Saunders, Y Reu, Mellt, Gramcon, Al Lewis Band, Y Cledrau, Sŵnami a Chowbois Rhos Botwnnog.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Llanelli
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol;[dolen farw] adalwyd 23 Awst 2014
- ↑ Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol; Teitl: Ffigurau Ymwelwyr Eisteddfod 2014;[dolen farw] adalwyd 23 Awst 2014
- ↑ "Tlws y Cerddor i Sioned Eleri Roberts". BBC Cymru Fyw. 2014-08-06. Cyrchwyd 2025-06-28.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014; tudalen 11
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014; tudalen 33
- ↑ Golwg 360; Teitl: Damian yn ail am y Goron; Awst 7, 2013; adalwyd 23 Awst 2014.
- ↑ "Dewi Wyn Williams yn ennill y Fedal Ddrama". BBC Cymru Fyw. 2014-08-07. Cyrchwyd 2025-06-28.
- ↑ Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014; tudalen 46
- ↑ Awdur monolog “sociopath” yn fodlon sensro er mwyn cyhoeddi. golwg360.com (20 Awst 2014). Adalwyd ar 26 Awst 2014.