Sgwrs:Ynni niwclear

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Traddodiad yn unig sy'n peri i mi beidio a newid teitl yr erthygl hon i "Egni niwclear", hen arferiad a dyna ni. Mi fasem yn fwy cyson pe baem yn gwneud hynny. Beth ydy eich barn? Llywelyn2000 16:49, 10 Gorffennaf 2010

Yn nhermau gwyddoniaeth, credaf mai "egni" ddylai gael ei ddefnyddio. O edrych ar wefan CBAC, dyma'r term a ddefnyddir yn yr ysgolion, a chredaf hefyd bod "ynni" yn fwy amwys, er ei fod yn fwy barddonol o bosibl! Mewn erthyglau gwyddonol fel hyn, dylir defnyddio "egni" yn fy marn bitw i. Eisingrug 23:57, 10 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
[gwrthdrawo golygyddol]Mae'n rhy hwyr yn y nos i mi sgwennu llawer heno, ond fel lleygwr roeddwn i'n meddwl mai'r "egni" (grym a ballu) a geir yn yr atomau eu hunain ac a ryddheir ohonynt mewn adwaith yw'r 'egni' a bod hynny wedyn yn cael ei ddefnyddio i greu 'ynni' (pŵer). Ydw i'n iawn? Yn sicr mae'r term 'ynni niwclear' yn llawer mwy cyffredin am y diwydiant na 'egni niwclear', dwi'n meddwl. Ond wedyn dwi ddim yn arbenigwr! Ydy llawlyfrau CBAC ac eraill yn gwahaniaethu rhwng 'egni' ac 'ynni' felly? Neu ydy'r gair 'pŵer' wedi disodli 'ynni' i raddau helaeth y dyddiau hyn? Anatiomaros 00:16, 11 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dyna'r pwynt. Heb fod yn nawddoglyd (gan nad ydw innau fawr o arbenigwr ychwaith), pŵer yw cyfradd trosglwyddiad egni. Mae'r gair "ynni" yn addasach ar gyfer y newyddion a rhaglenni cyffelyb, tra bo "egni" yn derm cywirach wrth sôn am gysyniadau megis EK=½mv2 mewn cyd-destun mwy gwyddonol. Dylir gwahaniaethu rhwng llenyddiaeth a gwyddoniaeth yn fy marn i, gan atal y naill rhag amharu ar y llall. (Wrth gwrs, mae gwir ogoniant yr iaith mewn llenyddiaeth, ond rhaid anwybyddu unrhyw sentiment mewn erthyglau mathemategol a gwyddonol). Y perygl yw y gall disgyblion a myfyrwyr gael eu camarwain gydag amwysedd rhwng "ynni" ac "egni". Credaf na cheir cyfeiriad at "ynni" mewn gwerslyfrau.Eisingrug 00:25, 11 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Nag oes, does dim cyfeiriad at "ynni" gan CBAC ac mae hyd yn oed "Y Termiadur Ysgol" yn sôn am "egni niwclear" a "phŵer niwclear" yn hytrach na'r hen "ynni niwclear". Mi arhosa i am chydig ddyddiau rhag ofn y daw barn gwahanol. Diolch eich dau. Llywelyn2000 07:05, 11 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Mae Uned Iaith Prifysgol Cymru, Bangor yn nodi "egni niwclear" jyst ichi wybod. -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 17:19, 11 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Dwi'n derbyn bod "egni niwclear" yn ddisgrifiad gwell, safonol, o'r broses ffisegol ei hun, fel a nodir uchod, ac eto mae'n rhaid i mi resynu'r ffaith fod "ynni" yn cael ei disodli gan y gair benthyg "pŵer" yn ein hysgolion. Arwydd o'r oes? Allan o ddiddordeb, ceir dros 9,000 o gyfeiriadau at "ynni niwclear" ar y we (y.c. y BBC, Casglu'r Tlysau, Amgueddfa Cymru, a chyfeiriadau yn y Papur Gwyn ar Ynni gan lywodraeth San Steffan - sy'n trafod "dyfodol ynni niwclear", a ffynonellau swyddogol eraill) a dim ond ychydig dros 500 at "egni niwclear". Ceir 900+ enghraifft o "pŵer niwclear".
Pan holwyd un o feirdd Mam Cymru am ei farn atebodd
Clywaf arial i'm calon
A'm gwythi, grym ynni Môn.
Fe'i cywirwyd ar unwaith gan swyddog wasg CBAC, wrth gwrs... :-) Anatiomaros 22:07, 11 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Pan ofynwyd barn bardd llys CBAC, dywedodd:
"O holi craidd fy nghalon,
Ddudwn i mai "egni" Môn" sy'n gywir!
I fod yn seriws am funud, rhaid cofio bod ystyr gwyddonol i "bŵer", ac felly y byddai cymysgu "egni", "ynni" a "phŵer" yn gamarweiniol i'r sawl hynny sydd o dan adain ddiwylliedig CBAC! Eisingrug 23:10, 11 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Egni sy'n y llyfrau - ond ynni da ni 'di arfer ei ddweud! Prun ydy'r pwysicaf? Y dyfodol! Cytuno gyda "egni niwclear". Ysgol Dinas Bran 14:12, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ar ôl ystyried, dwi bellach yn anghytuno â bardd llys CBAC. Gan nad oes cyswllt gwyddonol-bur i'r term "ynni" yn y cyd-destun hwn, credaf y dylai "ynni" gael ei ddefnyddio. Yn ddiffiniadol, mae pŵer yn golygu cyfradd trosglwyddiad egni, ond nid hyn sydd dan sylw yma. Gan mai llenyddol yw'r term o flaen "niwclear" yn hytrach na gwyddonol, byddai "pŵer" neu "egni" yn amwys gan fod diffiniadau gwyddonol iddynt. Eisingrug 14:26, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Rwan dwi'n dechrau amau Gronwy Ddu a bardd llys CBAC fel ei gilydd! Ydy'r geiriaduron yn egluro pethau, tybed? Hmmm... Dyma sy gan GPC:
egni : "Ynni, nerth, grym".
pŵer : "(e) Unrhyw ffurf ar ynni neu rym a gymhwysir ar gyfer gwaith, ynni trydanol."
ynni : "Gallu mater ac ymbelydredd i wneud gwaith...; unrhyw ffurf ar y gallu hwn sy'n deillio o adnoddau megis olew...[etc] ac a ddefnyddir i gynhyrchu pŵer; egni, pŵer."
Cymrwch eich dewis! Falla mai lobsgows sy gennym yn Gymraeg beth bynnag? Anatiomaros 22:31, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
A dyma sydd gan "Y Termiadur Ysgol" (ACCAC; 1998):
egni: 'energy'
pŵer: 'power'
ynni: ddim ynddo !
O edrych yn yr adran Saesneg, gwelwn mai'r cyfieithia am 'nuclear power' ydy "pŵer niwclear". 'Nuclear energy' = "egni niwclear".
Fy unig sylw arall ydy fod pethau'n newid ym mhob iaith; dwy neu dair mlynedd yn ol mi awgrymais ein bod yn cadw at ddiffiniad GPC (Anatiomaros uchod) fod ynni'n cael ei ddefnyddio am "Gallu mater ac ymbelydredd i wneud gwaith...; unrhyw ffurf ar y gallu hwn sy'n deillio o adnoddau megis olew...[etc] ac a ddefnyddir i gynhyrchu pŵer". Bellach, fe ddwedwn i mai mynd am egni ddylem ni, gan ganiatau un eithriad - ynni niwclear. Llywelyn2000 23:10, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Digon teg, mae'n debyg. Gyda llaw, wnes i greu'r categori:Ynni ychydig o wythnosau'n ôl. Gan fod 'ynni' yn cynnwys 'egni' a 'pŵer' [yn gam neu'n gymwys!], ac hefyd am ei fod yn cael ei ddefnyddio yn eang ar y we (chwilier 'ynni niwclear' mewn peiriant chwilio) ac ar lafar, dwi'n awgrymu aros gyda hynny am enw'r categori cyffredinol. Ydy hynny'n gwneud synnwyr? Anatiomaros 23:27, 12 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae'r gair "ynni" yn ddefnyddiol yma i wahaniaethu rhwng "egni" a "phŵer"; dau air a chanddynt ddiffiniadau gwyddonol pendant. Eisingrug 16:45, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Ydy hynny'n gwneud synnwyr? oedd cwestiwn Anatiomaros 4 neu 5 llinell i fyny. Ydy. Dim problem gen i. Llywelyn2000 19:51, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

I gau pen y mwdwl ac i grynhoi: dw i'n meddwl mai'r consensws barn ydy defnyddio egni ym mhob cyswllt, bellach, ag eithrio'r cyswllt niwclear pan ganiateir, oherwydd traddodiad, ddefnyddio'r term 'ynni niwclear' yn hytach (neu yn ogystal) ag egni neu bwer niwclear. Diolch i bawb am eich cyfraniadau. Llywelyn2000 20:34, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Mae hynny'n iawn gen i, Llywelyn, neu mi fydd gennym ni fwy o draethawd yma nac yn yr ethygl ei hun. Hoffwn eilio diolch Llywelyn hefyd: mae'n bwysig trafod yn ystyrlon fel hyn er mwyn cael consensws a gosod canllaw (a diolch i'r hen Ronwy a bardd llys CBAC hefyd, chwarae teg iddynt!). Anatiomaros 20:41, 13 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]